Faint ohonoch sydd erioed wedi defnyddio isdeitlau i wylio ffilm neu raglen mewn iaith dramor? Dyw hi ddim yn beth anarferol o gwbl erbyn heddiw i ddarganfod ffilm Sbaeneg, er enghraifft, gydag isdeitlau’n cyfieithu er mwyn i bobl ar draws y byd allu ei gwylio. Felly pam ddim cynnig isdeitlau i raglenni Cymraeg, a rhoi llwyfannau rhyngwladol iddyn nhw, hefyd?

Bu’r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yn trafod y mater ar ‘Dros Frecwast’ fis diwethaf“dwi’n meddwl os oes gennych chi stori dda, stori i’w dweud a’i bod yn gafael yn y gynulleidfa yna mae isdeitlau yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i’r bobl sy’n siarad yr iaith.” Cytunaf yn llwyr ag ef yn fan hyn – pam ddim galluogi raglenni Cymraeg i ehangu tu hwnt i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn unig? Gyda 36% o bobl ifanc Prydain ac America’n gwylio mwy o ffilmiau mewn ieithoedd tramor na’r ganran bum mlynedd yn ôl, rwy’n sicr mai parhau i gynyddu bydd y galw am isdeitlau Saesneg i raglenni Cymraeg.

Ond, yn ogystal â’r drafodaeth a fu ar y radio, credaf hefyd y gallai isdeitlau Saesneg roi help llaw sylweddol i ddysgwyr wrth iddynt gyfarwyddo ag elfennau llafar yr iaith. Mae dysgu iaith yn anodd, a, gyda bron 17,000 o unigolion wedi dechrau dilyn cyrsiau Cymraeg y llynedd, mae’n amlwg y byddai digon o alw am ychydig fwy o help. Petaech chi’n ceisio dysgu, na fyddech chi eisiau teimlo fod addasiadau priodol wedi’i gwneud er mwyn hwyluso’r broses i chi?

I fod yn onest, galla i ddim meddwl am un ffordd y gallai gyflwyno isdeitlau fod yn rhwystr i’r Gymraegdyw isdeitlau bach ar waelod y sgrin ddim yn ddigon i amharu ar unrhyw un, a, beth bynnag, gellir eu troi i ffwrdd ac ymlaen yn ddigon hawdd wrth wasgu botwm ar y teclyn rheoli! Yn sicr felly, gall cyflwyno isdeitlau Saesneg ddod â môr o gyfleoedd i’r Gymraeg, yng Nghymru, ym Mhrydain, ac ar draws y byd.

Ond, yn fwy na hynny, credaf ei fod yn hollol angenrheidiol ar gyfer cynnwys dysgwyr, a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, pam lai?