Wrth i fwy o fyfyrwyr nesáu at ddiwedd eu cyfnod yn y brifysgol, daw cwestiynau anochel i’r arwyneb; a ddylwn aros yn y ddinas, neu ddychwelyd adref? I lawer, mae’r penderfyniad rhwng y ddau yn un sy’n galw am feddwl dwfn. Mae bywyd mewn cymuned fach yn wahanol iawn i sŵn a phrysurdeb y ddinas fawr.

O’r cyfarchion dyddiol ar y stryd, piciad cloi i’r siop leol, i sgwrs sydyn gyda chymdogion. Nid oes chwaith angen egluro pwy wyt ti, gan fod pawb yn adnabod pawb. Dyma gymuned glòs ar ei orau.

Ond ai dyma wir adlewyrchiad cymunedau bach heddiw? Yn naturiol, mae gadael y cartref yn ehangu gorwelion. Mae’r ddinas yn cynnig rhywbeth na all llawer o gymunedau bach eu cynnig; dewis, amrywiaeth ac uchelgais.

Ac wedi graddio, mae’n rhaid i nifer o fyfyrwyr wneud y penderfyniad o aros neu ddychwelyd adref. Mae Heledd Roberts, sy’n dod o Lanerfyl yng Nghanolbarth Cymru, yn rhannu ei phrofiad o’r trawsnewid yma wrth symud i Gaerdydd. Wedi tyfu i fyny mewn cymuned glòs a Chymraeg ei hiaith, lle’r oedd pawb yn adnabod ei gilydd. “Roedd e’n dawel iawn, dim llawer o bobl, ond 30 oedd yn fy ysgol gynradd, sydd bellach wedi cau”, meddai.

Er bod symud i’r brifddinas yn sioc ddiwylliannol, y pellter oedd y newid mwyaf iddi. “Y sioc fwyaf oedd bod popeth mor agos, mae popeth o fewn pellter cerdded”, eglura hi. I Heledd, mae’r cyfleoedd sy’n bodoli yn y ddinas yn rhywbeth anodd eu hanwybyddu. Am y tro, nid yw hi’n gweld ei hun yn dychwelyd i Lanerfyl. “Byddai angen mwy o swyddi Cymraeg a chyfleoedd i bobl ifanc i mi allu dychwelyd”.

Mae Aron Jones, myfyriwr o Lasfryn ger Cerrigydrudion, hefyd wedi profi’r trawsnewid o bentref bach i ddinas. Cafodd ei fagu mewn ardal “ddiogel, tawel a chymunedol iawn” ac mae’n teimlo’n lwcus iawn am y profiad hwnnw. I Aron, un o fanteision mwyaf byw mewn cymuned fach oedd y teimlad o berthyn. “Y teimlad o nabod pawb a bod wastad rhywun yna i helpu,” “Cefais fy magu gyda’r gymuned o’m cwmpas, yn mynd i’r capel, y clwb pêl-droed, [chwarae] rygbi’n lleol, a digwyddiadau bach y pentref.” Fodd bynnag, roedd symud i’r ddinas yn newid byd. “Mae mwy o bethau i’w gwneud, mwy o le i fod yn annibynnol, a chymaint o gyfleoedd newydd.” Er ei fod bellach yn byw mewn amgylchedd llawer mwy, mae’n dal i brofi ymdeimlad o berthyn. “Mae’n hawdd teimlo’n rhan o gymuned fechan o fewn y brifysgol, sy’n helpu i wneud y ddinas teimlo’n gartrefol.” Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Aron yn gobeithio dychwelyd adref. “Byddwn i’n licio dychwelyd rywbryd, mae’r cysylltiad gyda’r ardal yn gryf iawn, ond am rŵan mae’r cyfleoedd proffesiynol a phersonol yn y ddinas yn apelio mwy”.

Mae profiadau’r ddau yn adlewyrchu realiti llawer o bobl ifanc sy’n gadael eu cymunedau bach i geisio dyfodol mewn dinas. Mae’r dewis rhwng y cysylltiad agos o fewn cymunedau bach a’r cyfleoedd sy’n bodoli mewn dinas, yn parhau i fod yn un anodd i lawer. Hannah Williams Pennaeth Taf-Od