Bu gwylltio yng Nghaerdydd ddechrau mis Mai wedi i flwch post ger tafarn yr Owain Glyndŵr gael ei ddewis yn un o bedwar yn y Deyrnas Unedig i gael ei ail-beintio er mwyn nodi coroni’r Brenin Siarl. Gwylltio o ddau barth; y rheini a lynodd sticeri YesCymru ar y blwch post ar ei newydd wedd, a gwylltio gan y rheini oedd am dynnu’r sticeri fel arwydd o barch at frenin newydd y DU. Daw’r gwylltio hwn yn gymysg â dicter at eironi lleoliad y blwch post arbennig hwn; o fewn pymtheg troedfedd i dafarn wedi’i enwi ar ôl un o arweinwyr mwyaf nodedig Cymru a frwydrodd am annibyniaeth o undeb y frenhiniaeth y cafodd Brenin Siarl ei goroni’n ben arni ar y 6ed o Fai.

Ymysg y rhai sy’n anfodlon â’r coroni yw nifer o aelodau Cymdeithas Plaid Cymru Prifysgol Caerdydd. Yn eu crysau-T melyn yn datgan ‘nid fy mrenin’, buon nhw’n protestio tu allan i undeb y myfyrwyr ddydd Iau cyn y coroni. Yn ôl Thomas Pugh, aelod brwd o’r gymdeithas, “nid ein brenin ni mo Siarl.” Mae’n debyg y bydd y digwyddiad yn costio miliynau o bunnoedd i’w gynnal, ac mae Thomas yn anghytuno â’r egwyddor hon gan ystyried yr argyfwng costau byw sydd ohoni; “dylid rhoi’r £100,000,000 am y coroni i fanciau bwyd.” Mae ef o’r farn y cafwyd ymateb “hynod gadarnhaol” i’w protest nhw tu allan i’r undeb, wedi sgwrsio â nifer o fyfyrwyr a oedd hefyd o’r gred y dylid “diddymu’r frenhiniaeth.” Mae Thomas am annog myfyrwyr i ymuno â’r gymdeithas trwy wefan yr undeb.

Gwelwyd sawl protest arall ar draws y ddinas ddydd Sadwrn y 6ed o Fai hefyd, gyda’r rheini a anghytunai â’r coroni yn gorymdeithio ar hyd stryd y Frenhines. Ond, ar ddiwedd y stryd honno dros furiau’r castell, roedd torf o bobl yn gwylio’r seremoni ar sgrin fawr. Dyma ddau safbwynt cyferbyniol felly a fyddai’n anghytuno dros bresenoldeb y blwch post arbennig tu allan i dafarn yr Owain Glyndŵr, gwir dywysog olaf Cymru yn ôl Thomas. Ar ddiwrnod y coroni, roedd y blwch post hwnnw wedi’i orchuddio unwaith eto gyda sticeri cenedlaetholgar Cymreig.

Ar yr un pryd, draw yn Abaty San Steffan, roedd Bryn Terfel yn canu’r geiriau Cymraeg cyntaf erioed i’w hyngan mewn seremoni coroni: diwrnod hanesyddol i’r Gymraeg, a diwrnod dryslyd i nifer o’r Cymry.