Cynhaliwyd gwobrau BAFTA Cymru 2023 yng Nghasnewydd ar y 15fed o Hydref eleni. Mae gwobrau BAFTA Cymru yn gyfle blynyddol i gydnabod ac i ddathlu llwyddiant darlledu a chynhyrchu ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru. Daeth 32 o einillwyr i’r brig yn ystod y noson a arweinwyd gan seren The One Show, Alex Jones.

Ymhlith yr enillwyr oedd yr actor o Aberystwyth sydd bellach wedi gwneud enw mawr i’w hun o fewn y diwydiant ffilm, Taron Egerton. Daeth y wobr yn eiddo iddo yn dilyn ei waith actio yn y ddrama boblogaidd, Black Bird. Er mai eleni oedd y tro cyntaf i Taron Egerton dderbyn gwobr BAFTA Cymru, nid yw ennill gwobrau yn rhywbeth diethr i’r Cymro wrth iddo ennill Golden Globe nôl yn 2020 am chwarae’r enwog Elton John yn y ffilm Rocketman. Actorion eraill oedd wedi eu henwebu am y gwobr oedd Graham Land am ei waith yn Dal Y Mellt, Owain Arthur yn The Lord of The Rings ac Rhys Ifans yn House of The Dragon.

Yr actores a ddaeth i’r brig oedd Rakie Ayola o Gaerdydd am ei gwaith yn The Pact. Roedd enwebiad hefyd i Eiry Thomas – Y Sŵn, Katy Wix – Big Boys ac Ruth Wilson – His Dark Materials.

Roedd y noson yn sicr yn un lwyddiannus iawn i’r darlledwr ‘amddrywan’ Hywel Gwynfryn a dderbyniodd Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru 2023.

Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru a gafodd y fraint o gyflwyno’r wobr i Hywel Gwynfryn a dywedodd fod ei gyfraniad i’r byd darlledu, i’r genedl ac i’r Gymraeg yn ‘amhrisiadwy.’

Enillodd Y Sŵn y nifer mwyaf o enwebiadau BAFTAs eleni.... y ffilm yn gynharach eleni gan ddilyn hanes Gwynfor Evans ynghlwm â Chymdeithas yr Iaith a Plaid Cymru frwydro am sianel cyfrwng Cymraeg. Daeth y ffilm i’r brig ddwywaith ar y noson, gan ennill gwobr y Ffilm Nodwedd / Deledu orau ac yng nghategori Golygu Ffuglen.

Aeth y gwobr Newyddion a Materion Cyfoes i dîm Y Byd ar Bedwar yn seiliedig ar eu gwaith am gostau cynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd Qatar y llynedd. Mared Jarman o’r rhaglen gomedi How This Blind Girl... enillodd y wobr Cymru Torri Trwodd. Hefyd wedi eu henwebu am y wobr oedd Emily Morus-Jones o Diomysus: More than Monogamy ac Issa Farfour o Wales this Week and Wales at Six.

I ddarganfod rhagor o enillwyr BAFTA Cymru 2023, mae modd ymweld â gwefan BAFTA Cymru.