Mae busnes a sefydlwyd gan un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, GM Notebooks, yn cynorthwyo dysgwyr Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys dysgwyr mor bell ag America.

Un o fentrau’r busnes yw ei sesiynau rhithiol ‘Cymraeg a Phaned’, sydd yn ôl perchennog y busnes – Gwilym Morgan, 19, o Gaerdydd – yn rhoi cyfle “i ddysgwyr ledled y byd i ddod ar y cyfarfod i siarad Cymraeg efo pobl arall” a hynny am ddim. Dechreuodd gynnal y sesiynau dros alwadau fideo ar y we ym mis Tachwedd y llynedd, a bellach y mae wedi cynnal 3 ohonynt, gyda rhwng 10 a 15 o unigolion yn ymuno. O’r rheini, mae’r mwyafrif wedi’u lleoli yng Nghymru, ond mae 5 person wedi ymuno y tu hwnt i’r wlad – tri o America, un o Ganada ac un o’r Eidal. Dywedodd Gwilym ei fod yn “hyfryd i’w cael nhw” gan ei fod yn dangos nad yw’r Gymraeg wedi’i chyfyngu i Gymru yn unig.

Mae Gwilym bellach yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y busnes GM Notebooks yn wreiddiol yn 2021, yn gwerthu llyfrau nodiadau ar y we er mwyn ennill ychydig o arian poced. Wedi iddo ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn 2023, dywedodd ei fod wedi dechrau meddwl “sut dwi’n gallu defnyddio’r profiad hwn a’m profiad fy hun i ddysgu eraill?”. Yn y pen draw, penderfynodd ailsefydlu’r busnes gan greu adnoddau i gynorthwyo pobl eraill sy’n dysgu’r Gymraeg. Dyma yn ei eiriau ef, oedd “ail don y busnes”, ac ychwanegodd, “ers hynny ry’n ni jyst wedi tyfu a chreu mwy a mwy o adnoddau.”

“Ail don y busnes”

Dechreuodd drwy werthu llyfr nodiadau i ddysgwyr Cymraeg i gadw cofnod o’r hyn roeddent yn dysgu mewn gwersi. Bellach, y mae wedi cyflwyno llawer mwy o adnoddau i’w gasgliad megis posteri, mygiau, cardiau fflach, a’i gynnyrch mwyaf poblogaidd sef y mat gramadeg. Dywedodd Gwilym, “Mae wedi gwerthu allan dwywaith yn yr Haf ”, ac maent bellach yn ei gyflwyno am drydydd tro.

Mae GM Notebooks wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn wrth gwsmeriaid am ei gynnyrch. Yng ngeiriau Gwilym, “mae lot yn dweud bod dim byd fel hwn o’r blaen ar gyfer y Gymraeg”.

Ychwanegodd, “mae lot o nhw’n dweud bod e’n neis cael rhywbeth lliwgar a mwy modern”.

“dim byd fel hwn o’r blaen ar gyfer y Gymraeg”

GM Notebooks oedd y cyntaf hefyd i gyhoeddi dyddiadur gofidiau yn y Gymraeg. Creodd Gwilym fersiwn Saesneg o’r dyddiadur i’w chwaer, ac yna ei gyfieithu gan nad oedd “wedi gweld dim byd fel hyn yn y Gymraeg”. Mynegodd ddiddordeb mewn creu mwy o adnoddau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol, ond mai ei brif ffocws ar hyn o bryd yw datblygu adnoddau i ddysgwyr.

Technoleg fel Arf i Dyfu Busnes

Mae Gwilym hefyd yn manteisio ar y cyfle i dyfu ei fusnes drwy dechnoleg. Mae gan GM Notebooks bresenoldeb blaenllaw ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn ddiweddar, maent wedi profi twf sylweddol mewn dilyniant. Tua 300 o ddilynwyr oedd gan y busnes ar Instagram ar ddechrau haf 2024, ond ers hynny dywedodd Gwilym ei fod wedi ennill cannoedd o ddilynwyr, a bellach mae dros fil o bobl yn dilyn y cyfrif.

Mae Gwilym yn aml yn defnyddio’i blatfform ar y cyfryngau cymdeithasol i uwchlwytho fideos byr sy’n dysgu geirfa amserol i’w gynulleidfa. Yn ddiweddar, postiodd fideo am eirfa sy’n gysylltiedig â Dydd Sant Ffolant fel ‘cariad’ a ‘ffrind’.

Ond menter ddiweddaraf y busnes yw ei sesiynau rhithiol ‘Cymraeg a Phaned’.

Neges Gwilym i unrhyw un sy’n dysgu’r Gymraeg neu sy’n awyddus i’w dysgu yw i “fynd amdani”. Ei gyngor yw gwneud popeth y gallwch yn y Gymraeg megis “mynd i drafod yn y Gymraeg ble bynnag wyt ti, trochi dy hun yn y Gymraeg, ceisio darllen yn y Gymraeg (a) gwrando ar Radio Cymru”.