Cafodd y Gymraeg ei chlywed am y tro cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghwpan y Byd Qatar llynedd diolch i amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru, Ben Davies. Yn ôl y Cymro o Gastell-Nedd, roedd yn deimlad “arbennig” i greu hanes wrth fod y cyntaf i siarad yr iaith ar lwyfan Cwpan y Byd. Yn y gynhadledd, dywedodd Ben Davies ei fod yn deimlad ffantastig fod yn rhan o’r garfan ac i gael y siawns i ddod â Chymru i lefydd o gwmpas y byd.” Derbyniodd Ben lawer o feirniadaeth ar-lein am ddewis gwneud y cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd sawl sylwad negyddol i’w weld ar Twitter megis “Ben Davies speaking in gibberish”, “Why can’t Ben Davies speak English” ac “Why can’t Ben Davies just speak English, he plays for Spurs.” Ymatebodd Ben Davies i’r sylwadau negyddol hyn mewn rhaglen ddiweddar o ‘Y Byd ar Bedwar’ gan ddweud fod “wastad pobl yn mynd i gael rhywbeth i’w ddweud am bopeth yn y byd, ac mae siarad yr iaith yn rhywbeth sydd yn gwneud i ni deimlo ein bod ni’n rhan o gymuned Cymru.” Dywedodd hefyd fod “siarad yr iaith yn eithaf naturiol i mi ac yn rhywbeth sydd wedi bod gyda mi drwy fy mywyd.” Mae’r rhaglen diweddar o ‘Y Byd ar Bedwar’ yn cwestiynu pa mor debygol yw cyrraedd uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 wrth ystyried fod bron 24,000 yn llai o bobl yn siarad yr iaith heddiw nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl. Clywir barn athrawon am y galw ar lywodraeth Cymru i droi pob ysgol yn ysgol Gymraeg erbyn 2050, yn ogystal â barn un o Dregaron sydd yn credu nad yw’r Gymraeg o werth thu hwnt i bont o Gaerdydd. Mae’r rhaglen ar gael i’w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer. Ymddangosodd Ben Davies hefyd ar ‘Stori’r iaith’ yn ddiweddar, rhaglen arall ar S4C sydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hanes y Gymraeg i wynebau enwog y wlad. Yn y rhaglen, mae Sean Fletcher yn cael y cyfle i gyfweld â Ben yn dilyn ei gyfnod yng Nghwpan y Byd. Dywedodd Ben ei fod yn “deimlad neis gallu dangos bod iaith ein hunain gyda ni a bod cymeriad ein hunain gyda ni.” Dywedodd hefyd ei fod yn “help” fod pobl fel Ian Gwyn Hughes yn gwthio’r Gymraeg a hanes yr iaith o gwmpas y tîm. Mae’r rhaglen hon hefyd ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.