Mae dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies, wedi ymddiswyddo. Gwrthwynebodd y symudiad ‘hiliol’ a ‘gwrth-Semitaidd’ ynglyn â Seioniaeth (Zionism) sef y symudiad Iddewig sydd yn cefnogi cread, datblygiad a gwarchodaeth Israel fel gwlad yr addewid i Iddewon. Wnaeth y blaid ddatgan fod Seioniaeth yn ffurf o hiliaeth yn eu cynhadledd ddechrau mis Hydref.

Mae Phil Davies, sy’n 28 mlwydd oed, wedi bod yn ddirprwy arweinydd i’r Blaid Werdd yng Nghymru ers 2024, ac wedi ymwneud â’r Blaid ers 7 mlynedd. Cyhoeddodd ei ymddiswyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, o ganlyniad i’w rwystredigaeth tuag at y Blaid.

Mewn cynhadledd ar ddydd Sul ar gychwyn mis Hydref, cafodd y symudiad i gydnabod Seioniaeth fel ffurf o huliaeth gan y Blaid Werdd ei basio o 1,022 i 813. Mae hyn wedi cael ei feirniadu’n fawr gan wleidyddion a chefnogwyr y Blaid gan achosi rhaniad mewnol. Datganodd y Blaid fod angen cael un ddemocratiaeth unedig o dan wladwriaeth Palestina, gan gynnwys yr Israel bresennol.

Penderfyniad Davies:

Ar y cyfryngau cymdeithasol, torrodd Davies y newyddion ei fod yn ymddiswyddo o’i rôl fel dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru. Disgrifiodd y Blaid fel plaid imperialaidd a gwrion.

Dywedodd Davies ei bod hi’n afrealistig ac annheg fod rhywun o’r Deyrnas Unedig wedi dweud wrth bobl yn y Dwyrain Canol sut y dylent fyw eu bywydau, gan gymharu’r sefyllfa â rheolaeth Lloegr dros Gymru.

Mae Davies yn dal i gefnogi Palestina ac yn cydnabod fod Israel yn cyflawni hil-laddiad.

Yn barod, mae yna densiynau mawr yn y Blaid Werdd ynglŷn â’r rhyfel rhwng Palestina ac Israel gyda’r syniad o Seioniaeth yn dabŵ mawr yn y blaid.

Dywedodd Davies wrth BBC Radio Wales Breakfast nad oedd yn gwybod pam y cafodd y sylwadau eu gwneud a pham yr roedd yn cael ei drafod, ac nad oedd y mater yn gwneud unrhyw beth i wella ansawdd bywyd pobl ym Mhalestina.

Ymateb y Blaid Werdd:

Ers y gynhadledd, mae Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, Zack Polanski, wedi rhannu datganiad gan ddweud na fyddai’n caniatau i unrhyw aelod o’i blaid gael ei eithrio dros resymau crefyddol neu gymunedol y maent yn rhan ohono.

Fel Iddew ei hun, wnaeth Polanski beidio ymddangos yn y gynhadledd i bleidleisio ar y mater gan ddweud ei fod yn ymgyrchu yn etholaeth Holborn a St Pancras - etholiad wnaeth golli yn y pen draw. Ond ar ôl hynny, dywedodd wrth y BBC y byddai wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Yn rhan o’r datganiad, pwysleisiodd y Blaid ei bod hi’n ddi-hiliol ac yn gwrthwynebu’r feddiannaeth anghyfreithlon ym Mhalestina ac yn Israel.

Mae’r Blaid Werdd yn dweud eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydraddoldeb, cyfiawnder a hawliau dynol i bawb ac yn gwrthwynebu pob math o hiliaeth.

Mae Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn anghytuno â’r symudiad, gan ddweud ei fod yn ceisio sicrhau fod y Blaid Werdd yng Nghymru yn cefnogi diogelwch a rhyddid i bawb.

Ymateb y gymuned Iddewig a Gwleidyddion:

Dywedodd Pennaeth Cyngor Iddewig ei fod yn beirniadu symudiad y Blaid Werdd, a’i fod yn siomedig. Yn barod, mae Iddewon Prydeinig wedi profi gwrth-Semitiaeth yn ystod y flwyddyn. Yn ôl yntau, cafodd Iddewon eu llofruddio yn y synagog a’u trywanu ar y strydoedd, a gwelwyd cymunedau Iddewig yn cael eu bomio.

Mae Rhun ap Iorwerth yn credu fod sylwadau’r Blaid Werdd ynglŷn â Seioniaeth yn hiliol ac yn ffiaidd, ac yn cytuno bod lle i ddwy wladwriaeth ym Mhalestina ac Israel. Mae Helen Jenner yn beirniadu’r symudiad, ac yn datgan fod gan bleidiau’r chwith broblem ddifrifol â gwrth-Semitiaeth.

Mae Davies eisiau i’r Blaid Werdd yng Nghymru fod yn annibynnol o’r Blaid yn Lloegr oherwydd diffyg cefnogaeth, ac y byddai’n ystyried ail-ymuno â’r blaid os bydd hynny’n digwydd.

Mae’n holl-bwysig ein bod ni yn cofio

Pob bendith i bobl Aberfan