Mae nadroedd sydd heb gael eu gweld ers 300,000 o flynyddoedd yn y gwyllt yn dychwelyd ac yn ymgartrefi mewn waliau ac atigau cartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Nadroedd Aesculapaidd yw’r rhain, a wnaeth ddianc o Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn, Conwy a Sŵ Llundain tua 50 mlynedd yn ôl.
Ers hynny mae tua 240 o’r nadroedd wedi cael eu gweld, gan gynnwys llond llaw ym mis Hydref 2024.
Canibaliaid?
Yn un o nadroedd mwyaf Ewrop, maent yn gallu tyfu dros 7 troedfedd. Yn wreiddiol mae eu cynefinoedd yn Ne Canolbarth Ewrop, a rhai rhannau o Orllewin Asia.
Yn ffodus i ni, dydyn nhw ddim yn wenwynig nac yn peri bygythiad i bobl. Mae eu deiet yn cynnwys adar, wyau, a mamaliaid bach gan eu cyfyngu.
Ond yn anaml iawn mae’r nadroedd yma yn dangos ymddygiad canibalaidd, drwy ysglyfaethu ar aelodau llai o’u rhywogaeth pan fo bwydydd eraill yn brin.
Effaith newid hinsawdd ar eu cynefinoedd
Roedd nadroedd Aesculapaidd, a fu unwaith yn crwydro rhannau o Ewrop yn ystod Oes yr Iâ, bron a diflannu o ganlyniad i’r newid hinsawdd eithriadol. Ond llwyddon nhw i oroesi mewn ardaloedd cynhesach ynysig a chynyddu o ran nifer ar draws gwahanol ranbarthau wrth i’r tymheredd godi.
Wrth i newid hinsawdd gynhesu rhannau o Ogledd Ewrop, mae nadroedd Aesculapaidd wedi lledu i diriogaethau newydd gan gynnwys Cymru.
Mae’r newid yn y tymheredd ac argaeledd ffynonellau bwyd wedi caniatáu iddynt addasu a sefydlu poblogaethau bach, lleoledig yng Nghymru, ble maent wedi dod yn ychwanegiad annisgwyl i fywyd gwyllt y rhanbarth.
Erbyn hyn maent yn byw yn ardaloedd Conwy, Parc Regent ac agos i ardal Ben y Bont.
Yn ôl Dr Tom Major, 33, arbenigwr a arweiniodd astudiaeth dwy flynedd o hyd, dywedodd fod y nadroedd yn gweld atig fel “encil cynnes a diogel”.
Awgrymodd “Os ydych chi’n dod o hyn i un ... yn bersonol byddwn i’n gadael iddo fod fel petaech ddim yn gwybod bod nhw yno” gan ychwanegu bod y nadroedd yn “swil iawn”.
“Does dim byd i bobl boeni, mae’r nadroedd hyn yn gwbl ddiniwed i bobl ac anifeiliaid anwes”.
Nadroedd eraill yng Nghymru
Mae tri math o neidr frodorol yng Nghymru – neidr y gwair, neidr esmwyth a’r Adder.
Yr Adder yw’r unig neidr wenwynig yma. Gall eu brathiadau fod yn boenus ac achosi llid, ond yn gyffredinol maent ond yn beryglus i bant ifanc, yr henoed, neu’r rhai â phroblemau iechyd.
Anaml iawn y dewch chi ar draws y nadroedd hyn, ond gallant gael eu gweld mewn gerddi ac yn y gwyllt yn ystod misoedd cynhesach.

