Mae RuPaul nôl ar ein sgriniau am gyfres arall o RuPaul’s Drag Race y Deyrnas Unedig. Mi fydd dwy drag queen Gymreig—Actavia, 21 o’r Bala, a Marmalade, 24 o Gaerdydd yn mynd ati i ddangos eu talentau i geisio ennill teitl “Seren Drag Nesaf y Deyrnas Unedig”, ac eleni, am y tro cyntaf gwobr ariannol o £25,000. Mae Actavia yn arloesi fel y drag queen gyntaf erioed i siarad Cymraeg ar y rhaglen, gan ddweud yn ei llinell cyntaf “Dyw’r slag’s ‘ma ddim yn gwybod be sy’n dod amdanyn nhw... ond bu nhw”.
Beth yw RuPaul’s Drag Race? Mae RuPaul’s Drag Race yn gystadleuaeth realiti lle mae criw o drag queens yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ystod eang o heriau sy’n profi eu sgiliau perfformio megis canu, dawnsio, actio, ysgrifennu comedi a lip sync. Tra hefyd yn arddangos eu galluoedd gwnïo mewn tasgau creadigol amrywiol, er mwyn plesio RuPaul—y drag queen fyd enwog, a’i banel o feirniaid gwadd enwog.
Cafodd y gyfres gyntaf o RuPaul’s Drag Race ei chyhoeddi yn 2009 yn America ac mae cyfres newydd ohono yn cael ei darlledu bob blwyddyn. Erbyn hyn, mae dros 45 o gyfresi gan gynnwys cyfresi deilliedig fel All Stars—i’r cystadleuwyr mwyaf eiconig rhoi cynnig arall ar ennill, yn ogystal â chyfresi rhyngwladol fel y Deyrnas Unedig.
“Diolch”
Am y tro cyntaf erioed clyw’r Gymraeg ar y rhaglen droeon o weithiau yn y bennod gyntaf. Y sialens gyntaf oedd sioe dalent cabaret, cyflwynodd Actavia berfformiad dawns a rap bywiog a oedd yn cynnwys llinell yn y Gymraeg, gan ddweud “does neb yn y ras ‘ma jest fel fi”, a gorffennodd gyda “diolch”.
Er nad oedd neb o’r cystadleuwyr na’r panel yn deall un gair o’r Gymraeg mae’n drawiadol fod Actavia yn gwneud cysylltiad uniongyrchol gyda gwylwyr Cymraeg. Yn ôl Teifi, sydd hefyd yn cael eu adnabod fel y drag queen Anniben: “Mae’r nifer o artistiaid drag sy’n gallu siarad Cymraeg yn fach, ond yn tyfu. Fi’n teimlo mor falch i weld yr iaith yn cael ei cynrychioli ar raglen deledu fi wedi bod yn gwylio am flynyddoedd, yn enwedig gan berson cwiar - mae’n codi’r calon.
Fi’n siwr neith hyn, yn ogystal â’r cynrychiolaeth mae Actavia a Marmalade yn dod â, mynd i agor llygaid llawer o bobl i ddiwylliant Cymraeg.”
Y Ddraig a’r Fari Lwyd
Thema gyntaf y gyfres oedd ‘tref enedigol’, ac roedd y ddwy yn hapus i seilio eu gwisgoedd ar Gymru. Disgrifiodd Actavia ei gwisg fel “fflag Cymru wedi’i ddadadeiladu”, gan ymgorffori’r ddraig trwy baentio ei hwyneb yn goch gyda cholur beiddgar, anadlu mwg, a gwisgo bodysuit coch wedi’i addurno â chlorian a chynffon. I gwblhau rhith y faner, gwisgodd glogyn gwyrdd a gwyn tu ôl iddi.
Seiliodd Marmalade ei gwisg ar draddodiad y Fari Lwyd, gan wisgo model trawiadol o benglog ceffyl gyda llen les yn disgyn ohono. Roedd hi’n gwisgo bodysuit les gwyn a chorsed gwyn, wedi’i haddurno â rhubanau coch a gwyrdd. Yn ogystal, esboniodd y traddodiad mewn troslais, sy’n addysgu’r gwylwyr di-gymraeg am y traddodiad unigryw hwn.

