Croeso nôl i drydedd bennod y gyfres Tarddiad ein Traddodiad. Y tro hwn byddaf yn archwilio chwedl y Ddraig Goch. Efallai mai dyma chwedl bwysicaf ein cenedl.

Mae’r chwedl wedi’i lleoli yn Ninas Emrys yng Ngogledd Cymru, ble yn ôl straeon y Mabinogi a’r Historia Britonium, y mae’r Ddraig Goch a’r Ddraig Wen wedi eu claddu. Rhaid gofyn felly o le ddaw’r chwedl yn wreiddiol? A beth yw’r neges y tu ôl i’r chwedl hanesyddol yma?

Yn ôl y chwedl hanesyddol, fe wnaeth Emrys Wledig ddarganfod y Ddraig Goch a’r Ddraig Wen yn ymladd mewn pydew, gan gynrychioli’r Cymry a’r Sacsoniaid. Enillodd y Ddraig Goch a dyma oedd diwedd y rhyfel, gyda’r Cymry yn fuddugol. Mae’r stori hefyd wedi cael ei chysylltu gyda’r Brenin Arthur, ac yn cael ei gweld fel symbol o’i fuddugoliaeth wrth ddod yn Frenin Prydain, wrth i’r ddraig Gymraeg gael goruchafiaeth ar y ddraig Sacsonaidd.

Dros y canrifoedd, mae’r stori wedi newid, ond y mae’r cyswllt amlwg gyda Chymru wedi parhau.

Mae’r stori am y Ddraig Goch yn ennill y frwydr yn dyddio yn ôl i’r 9fed ganrif, i’r straeon yn y Historia Britonium, a ysgrifennodd Nennius, mynach Cymraeg. Mae’r Ddraig hefyd yn ymddangos yn straeon y Mabinogi, er enghraifft stori Lludd a Llefelys, ble cafodd ei rhoi yn y pydew sydd yn y chwedl sydd yn gyfarwydd i ni heddiw.

Mae’r stori ei hun yn cynrychioli’r ysbryd Cymreig, a’r ffaith ein bod ni erioed wedi ildio wrth ymladd y ‘Ddraig Wen’, a bod ein gwlad yn dal i sefyll yn gryf er gwaethaf yr heriau. Mae’n cynrychioli’r hiraeth, ac ysbryd y Ddraig Goch sydd yn nodwedd o bob person sy’n galw ei hun yn Gymro Cymraeg.

Daw symbol y ddraig o’r Rhufeiniaid yn wreiddiol, a chafodd ei fabwysiadu gan Frenhinoedd Cymraeg yn y bumed ganrif. Ers hynny mae wedi bod yn arwydd o gryfder a gwaed y bobl. Mae’r symbol yn uno pawb sy’n galw eu hunain yn Gymry, ac yn un o’r pethau pwysicaf a mwyaf unigryw i’n gwlad fach ni.