Addysg, cymdeithasu neu brofiad? Beth yw’r atyniad i fynd i’r brifysgol, ac a yw’n werth chweil?

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llawer o drafod wedi bod am gostau addysg brifysgol ac a yw mynd i’r brifysgol yn wastraff arian neu’n fuddsoddiad yn y dyfodol.

Gyda ffioedd dysgu yn cyrraedd hyd at £9,790 y flwyddyn yng Nghymru, heb sôn am rent, bwyd a chostau byw eraill, mae rhai myfyrwyr yn cwestiynu a yw cael gradd yn werth yr arian.

Ond, er gwaethaf y gost, mae miloedd o bobl ifanc yn dewis mynd i’r brifysgol bob blwyddyn. I rai, mae’n gyfle i ennill cymhwyster ac yn agor drysau i fyd gwaith, tra bod eraill yn ei weld fel profiad cymdeithasol sy’n rhoi’r cyfle i bobl ehangu eu gorwelion a bod yn annibynnol.

Felly, a’i penderfyniad personol yw mynd i’r brifysgol, neu a oes pwysau ar bobl ifanc i ddilyn y llwybr drud hwn?

Mae Gethin Roberts, myfyriwr ail flwyddyn sy’n astudio peirianneg, yn teimlo bod pwysau ar ddisgyblion i ddilyn y llwybr traddodiadol hwn, yn enwedig y rhai sy’n gwneud yn dda yn yr ysgol.

“Dwi’n teimlo fatha bod y syniad o brifysgol wedi’n araf bach cal ei bwsio arna fi, i’r pwynt lle neshi fyth ystyried yr un opsiwn arall.”

Mae’n credu bod rhieni ac ysgolion weithiau’n rhoi gormod o bwyslais ar addysg brifysgol, gan orliwio’r manteision, yn enwedig i ddisgyblion sy’n gwneud yn dda yn academaidd. Cafodd ei annog i beidio â dilyn prentisiaeth hyfforddi rygbi pan oedd yn 16 oed, ac er ei fod yn hapus yn y brifysgol, mae’n credu na `ddylid diystyru llwybrau eraill.

Roedd Swyn Dafydd, myfyrwraig trydedd flwyddyn sy’n astudio Cymraeg a’r Gyfraith, hefyd yn ansicr am ei dyfodol wrth adael yr ysgol. Dewisodd fynd i’r brifysgol er mwyn parhau â’i haddysg ac agor drysau i fyd gwaith.

“Yn yr ysgol, ro’ ni’n eitha ansicr o beth roeddwn i eisiau gwneud yn y dyfodol, ac efallai yn gweld mynd i’r Brifysgol yn safe option."

Ond mae’r gost yn peri pryder iddi, yn enwedig wrth gymharu ei sefyllfa â ffrindiau sydd wedi dilyn prentisiaeth ac sydd, yn ei barn hi, mewn sefyllfa ariannol gwell.

Gyda rhai myfyrwyr ond yn mynychu darlithoedd am ychydig ddyddiau’r wythnos, codai cwestiynau ynglŷn â gwerth yr addysg a ddarperir. Ond ai nifer yr oriau darlithio yn unig ddylai fesur gwerth gradd?

Er y gost ofnadwy o uchel, pa bris ar addysg bywyd. Mae Gethin yn gweld gwerth arall yn y brifysgol, sef y cyfle i wneud ffrindiau oes a datblygu fel person. “Dydi fy mywyd cymdeithasol erioed di bo’n well na’r 4 mlynedd dwetha, a allai ddim dychmygu cyfnod o fywyd lle dwi wedi bod yn hapusach,” meddai.

Yn ôl arolwg Graduate Outcomes 2023/24, roedd 6% o raddedigion sefydliadau addysg uwch Cymru a ymatebodd yn ddi-waith tua 15 mis ar ôl gorffen eu hastudiaethau. Roedd 84% yn teimlo bod eu gweithgaredd presennol yn ystyrlon, ond dim od 68% oedd yn cytuno eu bod yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd wrth astudio yn y brifysgol.

Mae Swyn yn hyderus y bydd ei gradd yn ei helpu i gymhwyso fel cyfreithwraig ond yn poeni am brinder swyddi yn ei hardal enedigol. Dywedodd, “gan fy mod i eisiau dychwelyd adref i Orllewin Cymru, dw i’n eithaf ansicr faint o swyddi bydd ar gael.”

Felly, a oes cyfiawnhad dros y miloedd o bunnoedd sy’n cael ei wario ar addysg brifysgol, neu a yw’r profiadau a’r cyfleoedd sy’n dod yn ei sgil yn amhrisiadwy?