Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 ar 8 Mawrth 2023 ac eleni’r thema yw #CofleidioTegwch. Mae’r diwrnod wedi’i ddathlu’n flynyddol dros bedwar ban byd ers 1911 ac yn ddiwrnod sy’n dathlu menywod y gorffennol, presennol a dyfodol gan nodi eu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a mwy. Mae’r diwrnod hefyd yn gyfle i dynnu sylw at annhegwch sy’n parhau ac i alw am gydraddoldeb llwyr rhwng y rhywiau.

Dywed trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mai “Cydraddoldeb yw’r nod, a thegwch yw’r ffordd o gyrraedd hynny. Drwy sicrhau tegwch, gallwn gyrraedd cydraddoldeb.”

Cydraddoldeb yw’r nod, a thegwch yw’r ffordd o gyrraedd hynny. Drwy sicrhau tegwch, gallwn gyrraedd cydraddoldeb.”

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru yn fudiad sy’n cysylltu, ymgyrchu (dros) a dathlu menywod a’u hawliau. Eu gweledigaeth yw ‘Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu… lle mae gan fenywod a dynion awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.’ Ers 2011, mae RhCM wedi cynhyrchu pecyn cymorth o adnoddau i ysgolion a grwpiau cymunedol ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae cannoedd o ysgolion a grwpiau cymunedol wedi defnyddio’r pecynnau i addysgu oedolion y dyfodol am bwysigrwydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac am gryfder a chyflawniadau menywod ein byd.

Eleni ar yr 8fed o Fawrth fe gyhoeddodd RhCM, eu prosiect diweddara, mewn partneriaeth â ‘Elect Her’ sef ‘Mae Lle i Ni.’ Fel rhan o’r prosiect fe fydd diwrnod y menywod yn cael ei gynnal yn y Senedd ym mis Hydref wrth i fenywod gymryd y llyw gyda’r nod o ‘gysylltu, ysgogi a hyrwyddo eu rôl yn nemocratiaeth Cymru.’

Mae Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, yn falch o gefnogi’r prosiect hwn a chryfhau lleisiau benywaidd yn y byd gwleidyddol a chyhoeddus. Dywed: “Dyma gefnogi nod Lle i Ni i’r eithaf, er mwyn grymuso ac ysbrydoli amrywiaeth ehangach o fenywod i roi cynnig ar fyd gwleidyddiaeth. Mae gan y Senedd hanes cryf o gynrychiolaeth gan fenywod, ond rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog y genhedlaeth nesaf. Bydd y digwyddiad neilltuol yma’r hydref hwn yn cynnig cyfleoedd i fenywod ddod o hyd i’w llais a mynnu eu lle wrth galon gwleidyddiaeth Cymru.”

Bu dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dros hyd a lled y wlad gan gynnwys yma yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd noson o berfformio ar y 7fed o Fawrth gan Emily Carr, Swyddog Menywod yr Undeb ar y cyd â chymdeithas ffeministiaeth y brifysgol. Un a aeth i’r perfformiad oedd Deio Owen, Swyddog y Gymraeg presennol yr Undeb, a myfyriwr trydedd flwyddyn. Dywedodd: “Roedd y noson yn un gwerth chweil gyda pherfformiadau dawns, cerddoriaeth, barddoniaeth a mwy. Diolch yn fawr iawn i’r gymdeithas ffeministiaeth a’r swyddog menywod am drefnu noson wych!”

Yn ôl Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mae cydraddoldeb yn bwnc llosg i’r Llywodraeth ac yn rhywbeth sydd angen i holl Gymry’r wlad gefnogi er mwyn ei gwireddu. Dywed: “Rwy’n credu mai drwy ein ffocws ar groestoriadedd, cydraddoldeb canlyniadau a chyfiawnder cymdeithasol y byddwn yn symud tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ni allwn adael unrhyw fenyw na merch ar ôl. Byddwn [y Llywodraeth] yn gweithio gyda a thros fenywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod anabl, menywod LHDTC+, menywod mewn tlodi, menywod hŷn, merched ac eraill ledled Cymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol iddynt.

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth ddatblygu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod yr holl gyfranogwyr... yn barod i weithio mewn partneriaeth, troi’r deial a gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon a chyflym i sicrhau... Cymru lle mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau.”