Ar y 5 Rhagfyr eleni, mae adran Cymraeg ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwydiant y brifysgol – JOMEC Cymraeg yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu.
Mae JOMEC Cymraeg yn ganolbwynt i holl ddiwylliant newyddiaduraeth y brifysgol ac fel un sydd yn y drydedd flwyddyn yn astudio BA Cymraeg a Newyddiaduraeth, rwyf wedi elwa yn gryf o allu dilyn y modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers degawd bellach, mae JOMEC Cymraeg yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau sydd yn ‘cynnig cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd ym maesydd newyddiaduraeth, y cyfryngau neu’r tu hwnt.’
Wrth ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, mae cyfle i ddilyn modiwlau megis ‘Deall Newyddiaduraeth’, ‘Cymru: Y Senedd, Y Straeon a’r Spin’, ‘Yr Ystafell Newyddion’ a ‘Palu am y Gwir.’
Mae’r modiwlau hyn i gyd yn ddechrau gwych i rhywun sydd â diddordeb dilyn trywydd newyddiadurol.
Mae ‘Llais y Maes’ yn brofiad mae JOMEC Cymraeg yn ei gynnig i fyfyrwyr yn flynyddol.
Mae’n gyfle i fyfyrwyr fynd ati i ymchwilio, ysgrifennu a golygu straeon sydd yn berthnasol i gynulleidfaoedd ifanc ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Caerdydd yn lwcus iawn i gael adran newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg mor gryf. Ymlaen i’r 10 mlynedd nesaf!
Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr gynhyrchu pecynnau newyddion ac i gael blas ar waith newyddiadurol proffesiynnol.
Dywedodd Alys-Mai Walters, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn JOMEC Cymraeg fod ei phrofiad hi o fod yn rhan o Llais y Maes Eisteddfod Tregaron wedi bod yn ‘fythgofiadwy’. “Roedd cael gweithio fel newyddiadurwr mewn gwyl mor bwysig i mi yn sicr yn rhywbeth byddwn yn ei drysori am byth” meddai Alys.
Yn ogystal â hyn, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i gynhyrchu podlediadau gan gyfweld â unigolion proffesiynol ym maes newyddiaduraeth a’r cyfryngau.
Mae modd gwrando ar y podlediadau hyn ar gyfrif JOMEC Cymraeg / Y Darlledwyr ar Spotify.
Mae sawl gwestai cyfarwydd yn y byd newyddiaduraeth a’r cyfryngau ar gael ar y podlediadau gan gynnwys Manon Steffan Ross, Connagh Howard a Catrin Heledd.
Andrew Weeks a Sian Morgan Lloyd yw arweinwyr modiwlau JOMEC Cymraeg a gallaf gadarnhau eu bod wastad yn barod i gynnig cymorth ac i’n rhoi ar ben ffordd.
Yn sicr mae’r cwrs yn gyfle gwych i fyfyrwyr ifanc gael y cychwyn gorau mewn gyrfaoedd yn y maes newyddiaduraeth, diwylliant a chyfathrebu.
