Pan wynebodd Cymru Lloegr yn y gêm gyfeillgar ar y 9fed o Hydref, roedd y canlyniad ar bapur yn glir. Colled 3-0. Fodd bynnag, i lawer o gefnogwyr Cymru, ac i chwaraewyr fel Ffion Morgan, nid dyna hanfod y noson.

Mewn TikTok poblogaidd, rhannodd Ffion Morgan y chwaraewraig pêl-droed Cymru sydd hefyd yn chwarae i West Ham United, ei meddyliau am y noson. Er ei bod yn rhoi clod i Loegr am y “sioe oleuadau cŵl” cyn y gic gyntaf, roedd ei sylw’n troi’n gyflym at rywbeth llawer mwy pwerus. Yr awyrgylch a grëwyd gan gefnogwyr Cymru.

I Gymru, nid yw gêm fel hyn yn ymwneud â goliau ac ystadegau yn unig. Er byddai buddugoliaeth dros Loegr, wrth gwrs, wedi bod yn anhygoel. Mae’n ymwneud â phresenoldeb, llais, a hunaniaeth.

Hyd yn oed ar ôl colled, roedd yna deimlad clir o fuddugoliaeth yn y modd roedd y cefnogwyr yn canu, y ffordd roedd y chwaraewyr yn ymfalchïo yn y bathodyn, a’r ffordd roedd y tîm yn uno’r genedl. Teimlad a oedd yn fwy pwerus na’r sgôr terfynol. Mae Morgan yn ychwanegu, bron yn ymddiheuro, “Sorry I’m not making this into a England V Wales, but it tends to happen that way.

It’s a big rivalry guys”. Ac mae ganddi bwynt. Mae’r gystadleuaeth rhwng Cymru a Lloegr wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn hanes, diwylliant ac emosiwn.

Pan fydd y ddwy ochr yn dod wyneb yn wyneb ar lwyfan mor fawreddog â Stadiwm Wembley, mae’r ornest yn fwy na dim ond gêm, mae’n gyfle i brofi pwy ydyn ni fel cenedl. Mwy na gêm, ond balchder cenedlaethol Yn y dorf roedd Meilir Rowlands, myfyriwr yng Nghaerdydd wnaeth deithio i Wembley er mwyn cefnogi Cymru. Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd “Dwi’n teimlo fel oedd y gêm yn un gystadleuol iawn, i feddwl mai gêm gyfeillgar oedd hi”.

Er gwaethaf y sgôr, nododd “Roedd awyrgylch da i gael yn y stadiwm, gyda chefnogwyr Cymru yn canu er bod ni 3-0 lawr. Gyda chefnogwyr yn parhau i ganu dim ots am y sgôr”. Yn ôl Meilir, dyna sy’n gwneud cefnogwyr Cymru mor arbennig, yr angerdd.

Pan ofynnwyd iddo ai cystadleuaeth chwaraeon neu falchder cenedlaethol oedd hwn, atebodd “Mae o’n gyfuniad o’r ddau. Mae gweld y cefnogwyr yn trafeilio yr holl ffordd i Lundain yn arwydd mawr o falchder cenedlaethol, ond hefyd roedd o’n ddiddorol gweld Cymru yn chwarae Lloegr mewn stadiwm mor fawr â Stadiwm Wembley”. Mae hynny’n tanlinellu’r syniad bod y gêm yn fwy na 90 munud cystadleuol, ond yn gyfle i ddathlu’n hunaniaeth mewn ffordd weladwy, bwerus.

Efallai nad oedd y sgôr yn destun balchder, ond mewn gemau fel hyn, mae’n glir bod ysbryd y tîm a’r cefnogwyr yn rhywbeth na ellir ei fesur mewn niferoedd. Yr anthem. Yr awyrgylch.

Y balchder. Yn y categorïau hynny, roedd Cymru ar y brig. Ac weithiau dyma’r buddugoliaethau sy’n cyfrif fwyaf.