Ar y 27ain o Dachwedd eleni, rydym yn cofio 10 mlynedd ers marwolaeth Gary Speed. Hyd yn oed heddiw, mae pêl-droed Cymru dal i weld dylanwad anhygoel y cyn-chwaraewr. Gyda 85 o ymddangosiadau dros ei wlad, roedd yn chwaraewr adnabyddus o fewn y tîm rhyngwladol a wnaeth ei farwolaeth gyffwrdd ar cefnogwyr ar draws y byd. Ar 27 Tachwedd 2011 cafwyd hyd i'w gorff yn garej y teulu gan ei wraig, wedi iddo grogi ei hun. Mae’r ffaith bod “Sing a song for Speedo...” yn cael ei adleisio gan y wal goch hyd at heddiw yn dangos faint o feddwl oedd gan y cefnogwyr o’r cyn-rheolwr Cymreig. Mae clybiau pêl-droed ar draws Cymru wedi eu gwahodd i nodi munud o dawelwch yn eu gemau dros y penwythnos er cof am Gary Speed. Ers colli Gary Speed mae’r PFA wedi sefydlu llinell gymorth 24/7 sydd ar gael 365 diwrnod o’r flwyddyn os oes angen rhywun i siarad ag aelodau, yn ogystal â rhwydwaith cenedlaethol o 48 o gwnselwyr i chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr. A hithau’n fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl i ddynion mae’n bwysig i bobl fod yn ymwybodol eu bod ddim ar ben ei hunain. Mi fydd ysbryd Gary Speed yno yn y gemau ail-gyfle yn fis Mawrth ac heb dim amheuaeth mi fydd ei enaid yn bresennol fyth ymysg cefnogwyr Cymru.