Ilawer ohonom, mae dychwelyd i Gaerdydd yn golygu dychwelyd i’r Brifysgol, YOLO, pydru yn y llyfrgell neu rhedeg o amgylch Roath: yr holl bethau bychain hynny rydym yn ei wneud i roi rhywfaint o strwythr i’n hamser yma. A nawr, rydych yn darllen rhifyn o Gair Rhydd, ac fe hoffwn i ddiolch i chi am hynny. Ni yw eich papur newydd myfyrwyr, wedi ei ysgrifennu a’i olygu gan fyfyrwyr i rannu straeon ac i’ch cadw yn ymwybodol.

Os ydych yn lasfyfyrwyr neu wedi bod yma ers blynyddoedd (fel fi), dyma groeso cynnes yn ôl oddi wrthyf i a’r tîm a diolch am gael cipolwg ar ein papur. Os ydych wedi bod yn ein dilyn ers sbel, efallai eich bod wedi sylweddoli ar rai newidiadau ers y llynedd.

Mae gennym ni adrannau newydd megis ‘Spotlight’ a Barn. ‘Spotlight’ yw ein hadran newydd ar gyfer popeth sydd yn ymwneud â Chaerdydd.

Bydd yr adran yn hyrwyddo am bethau i’w gwneud a’u gweld o amgylch ein dinas gwych. Mae ein hadran Barn yn gyfle i roi llwyfan i’n myfyrwyr ac i arddangos materion sydd yn bwysig i ni.

Gyda’r ychwanegiadau newydd hyn (a mwy ar y ffordd) rydym yn gobeithio y gwnewch chi ddarganfod rhywbeth o’ch diddordeb.

Mae gennym y clasuron o hyd — Newyddion, Gwleidyddiaeth, Chwaraeon a llawer mwy.

Mae’r straeon hyn am Gaerdydd ac o amgylch y byd, i gyd gyda edefyn cyffredin o gael eu hysgrifennu gan fyfyrwyr fel chi gyda agwedd sydd yn gwneud y newyddion yn berthnasol i’ch profiad prifysgol chi.

Gan mai hwn yw ein rhifyn cyntaf o’r flwyddyn academaidd, mae gennym ni straeon gwych am anhawsderau y flwyddyn gyntaf yn yr adran Barn, ac rydym hefyd wedi dod â’r croesair yn ôl, felly os ydych chi eisiau seibiant oddi wrth eich darlithoedd – trowch i’r cefn i gael golwg.

Mae gennym hefyd ein hardan cyfrwng Cymraeg anhygoel Taf-Od, sydd yn eich darparu gyda’r holl uchafbwyntiau o bob adran yn y Gymraeg.

Gyda rhifyn newydd pob pythefnos, rydym yn gobeithio y gwnewch chi ddychwelyd yn ôl i gael cipolwg ar y byd drwy lygaid myfyriwr Caerdydd.

Rydym wastad yn agored i syniadau, felly mae croeso i chi yrru e-bost i mi.

Mwynhewch!

...gan obeithio y bydd lwc o’ch plaid.