Mae mis Tachwedd yn fis codi ymwybyddiaeth diabetes ac fel un sydd yn byw â’r cyflwr ers bron i bum mlynedd bellach, dyma ychydig ar sut roedd yn rhaid i mi ddygymod gyda diabetes yn fy arddegau drwy alaru’r bywyd oedd gen i cyn y diagnosis.
Nos Wener arferol oedd hi i fod y noson honno ym mis Ionawr 2019, ac minnau’n 16 doeddwn i’n poeni am ddim ar y pryd, heblaw ambell arholiad ar y gorwel.
Ond ychydig oriau’n ddiweddarach wedi i mi orfod mynd i’r ysbytu ar frys, fe ges i ddiagnosis o ddiabetes math 1.
Roeddwn wedi cyrraedd sefyllfa ble’r oedd fy nghorff mewn Keatoacidosis diabetig – cyflwr all arwain at ddisgyn mewn i goma os nad yw’n cael ei drin ar frys.
Treuliais y dyddiau dryslyd nesaf mewn uned ddibyniaeth uchel yn ysbyty Gwynedd yn ceisio dod i delerau gyda’r newid byd dychrynllyd oedd o’m blaen.

Gwelais hi’n anodd i dderbyn y ffaith nad oeddwn i bellach yr un person ag oeddwn y blynyddoedd cynt.
Er fod fy nghyfnod yn yr ysbyty yn teimlo fel ‘fever dream’, dwi’n cofio pob manylun fel pe bai’n ddoe.
Hyd heddiw, rwyf yn parhau i deimlo elfen o gwilydd am y peth i fod yn onest, yn enwedig o ystyried y ‘stigma’ a’r diffyg dealltwriaeth sydd o amgylch diabetes – nid yw diabetes math 1 yn rhywbeth mae rhywun yn ei gael ar ôl bwyta gormod o siwgr, ac yn nid yw’n rhywbeth mae modd cael gwared ohono.
Wedi’r diagnosis, dwi’n cofio teimlo fel fy mod i wedi colli rhan ohonaf, ryw elfen o ryddid ac fy mod yn gwbl ar ben fy hun.
Mae diabetes math 1 yn gyflwr awtoimiwnedd ble mae’r pancreas yn methu a chreu’r inswlin sydd ei angen i symud glwcos y gwaed i fewn i gelloedd y corff, a’i ddefnyddio ar gyfer egni.
Mae’n rhaid i mi chwistrellu inswlin am weddill fy oes er mwyn atal y glwcos rhag casglu yn llif y gwaed Yn ol elusen JDRF, mae o gwmpas 400,000 o bobl ym Mhrydain yn byw gyda Diabetes math 1.
Mae diagnosis cynnar a rheolaeth dda yn hanfodol er mwyn osgoi cymlethodau.
Y peth cyntaf (a’r gwirionaf ) dwi’n cofio ei wneud yn yr ysbyty wedi cywed y newyddion oedd darllen am y cymlethodau sy’n gallu codi o ddiabetes math 1.
Mae’r rhestr yn un hir a nid ydw i’n argymell i neb wneud hynny ar ol derbyn diagnosis o’r fath.
Heb os, mae’n gallu bod yn gyflwr hynod o unig ar adegau ac mae’n anodd edrych yn ol ar y blynyddoedd ble’r oeddwn yn byw bywyd hollol wahanol, ble nad oedd angen i mi orfod meddwl am faint o inswlin sydd angen i swpar.
Ond, er y newid byd, dwi’n ceisio peidio gadael i’r cyflwr fy nal yn ôl rhag byw bywyd llawn – dwi’n sicr wedi cyflawni cymaint â phawb arall sydd o’m cwmpas.
Credaf ei fod yn bwysig i unrhyw un byw â’r cyflwr i gydnabod pan mor anodd ydyw ar adegau. Nid oes dianc ohono ac mae’n rhywbeth trwm i orfod deffro pob bore yn gwybod ei fod arnoch chi i aros yn fyw. Dyma’r Is-Ganghellor benywaidd cyntaf yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ôl yr Athro, roedd hi’n ‘hen bryd’ cael menyw wrth y llyw.
