Roedd y 25ain o Hydref yn nodi’r diwrnod y cyhoeddodd un o hoelion wyth Cymru ei ymddeoliad i Gymru a gweddill y byd. Y tro diwethaf iddo gerdded allan dros Gymru oedd ar y 4ydd o Dachwedd, gêm a gynhaliwyd yn erbyn y Barbariaid. Mae Halfpenny wedi ennill 101 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 801 o bwyntiau, ac wedi chwarae pedwar gêm Brawf i Lewod Prydain ac Iwerddon.
Gadewch i ni edrych yn ôl ar daith Halfpenny a’i harweiniodd i heddiw.

Dechreuodd Halfpenny chwarae rygbi i Gorseinon, cyn iddo dod yn aelod o academi’r Gweilch cyn iddo arwyddo i Gleision Caerdydd cyn tymor 2007-08 - gan ennill Cwpan Eingl-Gymreig 2009 a Chwpan Her Ewrop 2010 gydag ochr y brifddinas. Yna arwyddodd i Toulon yn ôl yn 2014 a arweiniodd at ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop 2015 gyda thîm Ffrainc, i gyd cyn dychwelyd i Gymru gyda’r Scarlets ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2017. Chwaraeodd Halfpenny yn ei drydydd Cwpan y Byd a’r rownd derfynol yn nhwrnamaint 2023.
Ond penderfynwyd mai nawr fyddai’r amser gorau i ymddeol, gan gyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn dilyn ymadawiad Cymru o Gwpan Rygbi’r Byd. Fodd bynnag, datganodd y chwaraewr 34 oed ei awydd i barhau i chwarae rygbi clwb.
Penderfyniad sy’n mynd ag ef i ochr arall y byd wrth iddo gyhoeddi ei fod wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda’r Crusaders o dîm Super Rugby Seland Newydd. Y Crusaders, sy’n cael eu hyfforddi gan gyn-hyfforddwr Munster Rob Penney, yw’r tîm mwyaf llwyddiannus y tu allan i’r gêm ryngwladol mewn hanes ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr Super Rugby 11 o weithiau. Fe fydd yn un o ddau chwaraewr rhyngwladol Cymru fydd yn cystadlu yn Seland Newydd y tymor nesaf gyda’i gyn-chwaraewr o’r Scarlets Rhys Patchell wedi arwyddo i’r Highlanders.
