Elin Angharad Huws

Cymraeg a Newyddiaduraeth

Eisteddfod Boduan 2023, wel am chwip o wythnos! Saith diwrnod yn llawn cystadlaethau, cerddoriaeth, chwerthin, dysgu a chwerthin o’r diwrnod cyntaf i’r olaf un!

Hwerthin, dysgu a chwerthin o’r diwrnod cyntaf i’r olaf un!

Cefais y cyfle eleni i fod yn rhan o dîm Llais y Maes gyda’r adran JOMEC Cymraeg. Roedd hwn yn brofiad gwaith cyflogedig, ac rwy’n sicr y bydd yr holl sgiliau a phrofiadau newydd a gefais yn rhai a fydd yn ddefnyddiol ac o werth i mi yn y dyfodol. O ddydd Llun i ddydd Gwener, yr her i mi a 6 myfyriwr arall oedd dod o hyd i straeon cyfoes a fyddai’n ddiddorol i gynulleidfa eang. Bu’n rhaid strwythuro cyfweliadau a recordio cynnwys fideo addas i’w uwchlwytho ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hwn yn waith caled ond boddhaol, a rhoddodd fewnwelediadau i mi ar sut brofiad fyddai gweithio dan bwysau i gynhyrchu newyddion yn ddyddiol.

Erbyn y nos Wener, roedd hi’n amser ymlacio a mwynhau Maes B. Roedd yn wledd go iawn i’r clustiau yn gwrando i amrywiaeth o fandiau - yn enwedig Bwncath, Lloyd, Dom a Don, Papur Wal, a Morgan Elwy. Yn sicr, dyma beth oedd ei angen arnaf i orffen yr hyn a oedd eisoes wedi bod yn wythnos anhygoel.

Mae’r Eisteddfod ym Moduan yn sicr yn un y byddaf yn ei chofio am flynyddoedd, ac alla i ddim aros i weld beth fydd gan Rhondda Cynon Taf i’w gynnig yn 2024

Elan Gwilym

Seicoleg

Mae hi’n saff dweud fod enw boduan ar dafod pawb ar ol wythnos yr eisteddfod geneaethol. Roedd bwrlwm i’w gael o’r cerddi a chystadlu i’r mwydro’n maes b.

Fel un sy’n byw yng Nghaernarfon, felly tafliad carreg o’r maes eleni, roedd hi’n braf gweld diwylliant y gogledd yn gryf ynno. Er, roedd gweld dros 11,000 yn gig Bwncath ar y nos sul gyntaf, wir yn dangos ymestyniad sydd gan yr wyl dros y wlad. Roedd cael cymdeithasu gyda pobl a chefndiroedd gwahanol o fewn y gymdeithas gymraeg yn brofiad sy’n unigryw i’r Eisteddfod.

Braf oedd cael gweld cydgofi a cyn ddisgybl ysgol y Gelli Rhys Iorwerth yn ennill y goron.

I orffen yr wythnos roedd gigs maes b yn sefyll allan fel un o’n ffefrynnau, yn enwedig gweld Bryn Fon fel gwestai ar y llwyfan i bwncath. Profiad bythgofiadwy!

Diolch Boduan.