Fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU i leihau’r nifer o bobl ifanc sy’n feipio, mae disgwyl gwahardd feipiau tafladwy neu ‘disposable vapes’ ym Mhrydain erbyn diwedd 2024 neu dechrau 2025. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU, ar y cyd â llywodraethau Cymru a’r Alban yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i wahardd feipio yn sgíl eu ‘heffeithiau amgylcheddol’. Yn ôl ystadegau 2022 y GIG dangoswyd fod cynydd mewn feipio, gyda 9% o blant rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio e-sigaréts.

Roedd hyn yn gynnydd sylweddol o 6% o’i gymharu â’r ystadegau yn 2018. Er ei bod hi’n anghyfreithlon i unigolion o dan 18 oed brynu feps yn y Deyrnas Unedig, mae Dr Mike Mc- Kean, is-lywydd polisi ar gyfer Coleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant, yn tybio fod feipio ymysg plant yn eu harddegau yn dod yn “epidemig”, ac yn broblem y dylai’r DU ei gymryd o ddifrif. Mae tystiolaeth meddygol yn dangos bod y defnydd o’r feipiau hyn yn gallu arwain at risgiau megis caethiwed i nicotin, anhwylderau hwyliau a gostyngiad barhaol rheolaeth o ran ysgogiad.

Er hyn, mae Mae dylanwad marchnata hefyd cyfrannu at ddenu plant a phobl ifanc at y fêps. Gyda’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol, mae cynnwys marchnata a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a dylanwadwyr ar gyfryngau cymdeithasol yn ddylanwad allweddol ar ran ddealltwriaeth pobl ifanc o e-sigaréts. Bydd y pwerau newydd sy’n cael eu cyflwyno i gyfyngu ar flasau sydd yn cael eu marchnata’n benodol ar gyfer plant.

Yn ogystal â hyn, bydd dirwyon newydd o £100 yn cael eu cyflwyno i siopau yng Nghymru a Lloegr sy’n gwerthu feipiau yn anghyfreithlon i blant. Bydd ‘nicotine pouches’ hefyd yn cael eu gwahadd i blant