Gyda llai na 80 niwrnod i fynd, mae etholiad Senedd 2026 yn mynd i fod yn wahanol wrth i Gymru bleidleisio ar y 7fed o Fai i ddewis 96 o aelodau Seneddol. Dyma etholiad lle fydd pleidleiswyr mor ifanc â 16 oed yn gallu pleidleisio am blaid mewn system gyfrannol newydd. Ond, beth sydd yn poeni myfyrwyr Caerdydd cyn yr etholiad eleni? Beth fydd y ffactorau y byddant yn eu hystyried?
Yn ôl Megan Williams sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymdeithaseg, mae hi’n pryderu am argaeledd swyddi i bobl ifanc a’r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu trîn mewn swyddi contract sero-awr.
“Mae llawer o bobl ifanc mewn swyddi rhan-amser, dros dro neu ar gontractau ansicr. Er bod ganddynt waith, nid oes ganddynt y sicrwydd ariannol i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn gwneud rhentu neu brynu tŷ yn llawer anoddach, ac yn ei gwneud hi’n anodd arbed arian yn gyson. O ganlyniad, mae penderfyniadau mawr fel cynllunio teulu neu ymrwymo’n ariannol yn cael eu gweld fel rhwystr mawr.”
Yn enedigol o Orllewin Cymru, mae Megan am weld ei hun yn dychwelyd i sir Geredigion i fyw ond yn poeni am ddiffyg gwaith sefydlog mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd fod yr “ymdeimlad o gymuned a pherthyn, a bod yn agos at deulu, yn rhywbeth sy’n anodd ei ailgreu mewn dinas.”
“Ond byddwn i’n poeni am y cyfleoedd gwaith. Os nad oes digon o swyddi sefydlog gyda chyflog da, mae’n anodd cyfiawnhau symud yn ôl — hyd yn oed os yw’r galon eisiau.”

Poena Sami Sullivan sydd yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth am gynlluniau addysg uwch megis benthyciadau myfyrwyr a chostau ffioedd prifysgol sydd “yn cadw mynd i fyny.”
Creda fod “gwleidyddiaeth a pholisïau yn cael eu colli ymysg yr holl ffocws ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gan bawb yr hawl i farn ond mae rhai yn cymryd hyn yn eithafol.
Mae gan bawb yr hawl i farn ond mae rhai yn cymryd hyn yn eithafol.
“Etholiad y senedd ydyw - lleoliad sy’n rheoli Cymru, hoffwn weld gwleidyddion yn ffocysu ar weithredu yng Nghymru a chreu cynlluniau yn ymwneud â dyfodol yr iaith a diwylliant y Gymraeg tra hefyd yn ffocysu ar y broblem trafnidiaeth rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.”
Gyda system newydd o bleidleisio ac etholaethau newydd, dyma bryder Elliw Straen o’r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ôl hi, mae’n “poeni fod y rhannu etholaethau newydd am dan gynrynchioli ardaloedd sydd â etholaeth fawr fel fy un lleol i, Gwynedd Maldwyn, lle mae’r etholaeth yn ymestyn o Ben Llŷn i Loegr. Mae’n poeni am y diffyg cynrychiolaeth gall y system newydd ei greu gan ychwanegu, “fydd pobl hefyd yn fwy hesitant i ethol os ydi’r ethloaethau yn fwy gan fod llai o gynrynchiolaeth leol.”

Byd amaethyddiaeth sydd yn cymryd sylw Endaf Owen, myfyriwr ail flwyddyn yng Nghaerdydd ac mae am weld newidiadau i bethau megis treth etifeddiaeth a gwarediad o syniadau i blannu 10% o dir ffermio gan goed a gorfodaeth i ddefnyddio disel gwyn mewn tractorau.
Er bod rhain wedi eu disodli bellach mae’n poeni mai “mater o amsar tan ma rhywun yn cal bright idea tebyg.” Ac yntau o Ynys Môn, mae cynlluniau Wylfa newydd wedi bod yn bwnc llosg ac yn ôl Endaf, “yn bersonol dwi’n meddwl bod o am ddod a lot o swyddi a cyfleoedd i bobl sir fon a rhywle i annelu am Swydd yn y dyfodol.”
Mae’r amser yn crebachu i wleidyddion i ennill pleidleisiau etholwyr Cymru a’r polau piniwn yn dangos bydd newid sylweddol i’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru ar ôl y 7fed o Fai. Fodd bynnag, amser a ddengys os fodd y polau piniwn i’w gwireddu.

