Mewn ymweliad â Chaerdydd yr wythnos diwethaf, mae cynrychiolwyr o ddinas Birmingham, Alabama wedi atgyfnerthu’r cyfeillgarwch hirsefydlog rhwng Cymru a Birmingham. Llynedd, llofnodwyd cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol rhwng Llywodraeth Cymru a Birmingham er mwyn ceisio hyrwyddo cydweithrediad ym meysydd megis y celfyddydau, addysg, economi a gofal iechyd. Ar y 26ain o Fedi, dathlwyd y fenter hon yn swyddogol gyda digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm a fynychwyd gan arweinwyr lleol, cynrychiolwyr cymunedol, a llysgenhadon diwylliannol.

Gwraidd y cyfeillgarwch rhwng Cymru a Birmingham, Alabama oedd y cydymdeimlad a ddangoswyd dros 60 mlynedd yn ôl gan bobl Cymru i ddioddefwyr ymosodiad hiliol yn Alabama. Ar fore’r 15fed o Fedi 1963, pan oedd dwsinau o blant yn mynychu’r ysgol Sul yn Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, cafodd pedair merch ysgol eu lladd mewn ymosodiad bomio hiliol yno. Penderfynodd yr artist, John Petts bod rhaid dylunio ffenestr liw i gymryd lle yr un a ddinistriwyd.

Cafodd y ‘Wales Window’ felly ei gyflwyno i Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street ym 1965 gan bobl Cymru fel arwydd o ewyllys da. Cododd bobl ar draws Cymru arian i dalu am y ffenestr lliw gan gynnwys plant o Ysgol Gynradd St Mary the Virgin yn Nhref Biwt a rhoddodd eu harian poced i helpu. Fel rhan o’u diolch, cyflwynodd y gwesteion Americanaidd Sêl Dinas Birmingham yn rhodd i ddisgyblion yr ysgol gan Faer Birmingham.

Yn y digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm, estynnodd gôr Cymraeg Prifysgol Caerdydd, Y Waun Ddyfal groeso cynnes cerddorol i’r ymwelwyr. Rhai o’r ymwelwyr a gafodd y croeso yma oedd chwiorydd y pedair merch a lladdwyd gan gynnwys Sarah Collins Rudolph. Dywedodd Sarah: “Mae’r cwlwm rhwng Birmingham a Chymru wedi golygu cymaint i mi a sawl un arall a gafodd eu heffeithio ar y diwrnod ofnadwy hwnnw yn 1963.” “Dangosodd rhodd y Wales Window i ni fod pobl yr ochr draw i’r môr yn meddwl amdanom yn ein poen ac yn credu mewn dyfodol o obaith ac undod.

Nawr, wrth sefyll yma heddiw, rwy’n cael yr un ymdeimlad o undod, gan wybod bod ein cyfeillgarwch yn dal i fynd o nerth i nerth.” Mynegodd Eluned Morgan, y Prif Weinidog: “Mae’n bleser croesawu’r cynrychiolwyr o Birmingham Alabama i Gymru yr wythnos hon. Mae’n amlwg bod y cwlwm rhyngom wedi cryfhau dros amser ac yn ffynnu heddiw, gan roi cyfleoedd pellach i ni gydweithio. Nododd hefyd bod y “Wales Window wedi bod yn sylfaen i’n cyfeillgarwch a bydd yn ein hatgoffa o undod a gobaith am genedlaethau i ddod.”