Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu prisiau tocynnau trên i deithwyr yng Nghymru gan 4.6%. Golyga hyn fod tocynnau trên, ar gyfartaledd, 4.6% yn ddrytach ers 2 Mawrth 2025, pan gyflwynwyd y newid hwn.
Er bod y cynnydd cyffredinol o 4.6% yn cyd-fynd â chynnydd Llywodraeth DU i drafnidiaeth yn Lloegr, mae trafnidiaeth wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru sy’n golygu eu bod wedi gallu cyflwyno cynnydd gwahanol i gynhyrchion gwahanol.
Mae tocynnau unffordd unrhyw adeg o’r dydd (anytime day single) wedi cynyddu 3% tra bod prisiau tocynnau tymor 7 diwrnod wedi cynyddu 3.5% gyda thocynnau dwyffordd unrhyw adeg o’r dydd (anytime day return) a thocynnau dwyffordd ar adegau tawel (off-peak) wedi cynyddu 6%.
Mewn datganiad, mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio fod yn rhaid cyflwyno’r cynnydd i sicrhau fod Trafnidiaeth Cymru yn gallu derbyn “digon o refeniw i dalu eu costau cynyddol a lleihau cymorthdal [gan y Llywodraeth].”
Serch hynny, nid yw pawb yn gefnogol o’r newidiadau, yn enwedig myfyrwyr.
Mae Rhodri Jones yn dod o Ogledd Cymru ac yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd ei fod yn “rhwystredig iawn gweld bod cynnydd mewn prisiau tocynnau trên.”
“Efo’r prisiau’r cynyddu, buasech yn disgwyl gwasanaeth o’r radd flaenaf; ond nid dyma’r achos efo’r daith fyny i’r gogledd... mae’n debyg mai aros yng Nghaerdydd fydda i am weddill y tymor a mynd amser llawer hirach na hoffwn i heb weld fy nheulu adref ” meddai wrth Gair Rhydd.
rhwystredig iawn
Rhodri Jones
Mae Megan Williams yn astudio Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac wrth siarad â Gair Rhydd, esboniodd ei bod yn ddibynnol ar wasanaethau trenau i deithio adref.
“wrth i’r prisiau gynyddu bydd hyn yn neud hi’n anoddach symud o gwmpas y ddau le heb dorri i mewn i wariant hanfodol eraill fel bwyd a deunyddiau astudio” meddai.
dibynnu llawer ar y trên
Megan Williams
Yn ôl Megan, credai y bydd yn golygu y bydd rhai yn penderfynu peidio mynychu’r campws mor aml gan arwain at “effaith negyddol ar ddigwyddiadau academaidd sy’n allweddol i’w profiad dysgu.”
Y teimlad yn gyffredinol ymysg myfyrwyr yw byddai’r codiad mewn prisiau tocynnau yn arwain at fwy o straen ariannol ar gyllideb myfyrwyr mewn cyfnod lle mae ffioedd dysgu yn codi a chaledi ariannol yn gyffredin ymysg myfyrwyr. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru yn mynu bod angen codi’r costau i sicrhau parhad i wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru.

