Oydag Etholiad y Senedd yn prysur agosáu, cyhoeddwyd mai Dan Thomas yw Arweinydd nesaf Reform UK yng Nghymru. Datganodd Nigel Farage y newyddion yn rali’r blaid yng Nghasnewydd ar y 5ed o Chwefror. Penodwyd arweinydd newydd i’r blaid yng Nghymru, ar ôl carcharu cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru am 10 mlynedd ar ôl iddo gyfaddef ei fod yn derbyn llwgrwobrwyon am wneud cyfweliadau ac areithiau o blaid Rwsia.
Ganed Dan Thomas yng Nghoed Duon yng Nghaerffili, ond treuliodd ei yrfa fel arweinydd Ceidwadol i Gyngor Barnett yn Llundain rhwng 2019 a 2022. Eisoes mae Thomas wedi sefyll fel un o ymgeiswyr y Ceidwadwyr yn Etholiad 2021 yn Islwyn.
Yn ôl ‘The Indpendent’, yn ystod y rali Reform UK datganodd Thomas ei fod yn credu fod Cymru wedi’i ‘dorri’, a bod Cymru angen safiad Reform, hwn byddai’r cyfle er mwyn ail-adeiladu Cymru.
Ychwanegodd, ei fod yn angerddol ynglŷn â’r ‘mewnfudwyr afreolus’ ac y byddai’n cael gwared o derfyn cyflymder gyrru 20mya yng Nghymru, sydd eisoes yn rhan o bolisïau cadarn y blaid.
Cymysg oedd y farn ynglŷn â phenodiad Thomas yn ystod y Rali, dywed yr ‘Independent’ fod pleidiau megis Llafur Cymru, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn honni mai pyped yw Dan Thomas ar gyfer Nigel Farage, gan gwestiynu pa mor gredadwy yw Thomas ar gyfer Cymru.
Dywedodd Thomas ei fod yn ‘wybodus iawn’ am wleidyddiaeth Cymru i’r BBC.
Cred Farage fod y penderfyniad o benodi Dan Thomas fel arweinydd Reform UK yng Nghymru yn un doeth achos ei fod yn frodor o’r cymoedd.
Ychwanegodd Farage fod gan Thomas brofiad busnes sylweddol a’i fod yn deall sut mae mynd ati i redeg cyllidebau mawr.
Symudodd Dan Thomas o’r blaid Geidwadol Fehefin y llynedd i Reform UK, ynghyd a’i gyd ymgeiswyr MS James Evans a Laura Anne Jones.
Cred Rhun ap Iorwerth mai Ceidwadwyr sydd ddim yn medru chwilio am gartref newydd yw Reform UK.
Mae penodiad Thomas yn dod ar adeg dyngedfennol ar gyfer Reform UK yng Nghymru, gydag Etholiad y Senedd yn digwydd ym mis Mai.
Yn ôl polau piniwn diweddar gan gynnwys More in Common a Sky News, disgwylir mai Reform UK fydd y blaid fwyaf yn y Senedd y flwyddyn nesaf gyda Reform UK yn cipio 31% o’r pleidleisiau, a Phlaid Cymru i ennill 24% o’r pleidleisiau.
Er hynny mae polau piniwn YouGov yn gweld hi’n wahanol a disgwylir i Blaid Cymru cipio’r fwyaf o bleidleisiau gyda 14 pwynt yn fwy na Reform UK.
Yn ôl Golwg, dywedodd Dan Thomas fod y pôl diweddaraf yn gadael pethau yn ‘gwbl agored ar gyfer yr etholiad’. (Image, Dan Thomas, ShahNixon via Wikimedia)

