Yn lle gwyrddni tawel y coed sy’n amgylchynu Parc Bute fel arfer, trodd ei lwybrau’n fôr o binc y penwythnos hwn, wrth i dros 6,000 o bobl ymgynnull yng nghalon Caerdydd i godi arian ar gyfer ymchwil canser. Nid yn unig i redeg, ond i gofio, i frwydro ac i herio canser. I’r rhai a gymerodd ran yn y Race for Life yng Nghaerdydd, roedd croesi’r llinell derfyn yn fwy na chyrraedd y diwedd.
I lawer roedd y digwyddiad yn deyrnged i’r rhai a gollwyd, yn ddathliad o fywyd, ac yn ddatganiad clir o obaith ar gyfer y dyfodol. Cychwynnodd y penwythnos gyda’r her fwdlyd Pretty Muddy, cwrs 5k llawn rhwystrau a mwd, sydd wedi’i gynllunio i fod yn hwylus ac yn hygyrch i bobl o bob oed a gallu. Cafodd cyfranogwyr eu herio i ddringo, cropian a llithro eu ffordd drwy’r cwrs, gan orffen gyda sleid fwd ar y llinell derfyn.
Roedd llawer yn cymryd rhan o fewn grwpiau gyda ffrindiau a theulu, gan ychwanegu at yr awyrgylch cymunedol a chefnogol. Parhaodd y digwyddiad i Ddydd Sul, gyda dewisiadau pellter yn cynnwys 3k, 5k a 10k, gan roi cyfle i bobl o bob lefel ffitrwydd gymryd rhan heb unrhyw bwysau. Nid yw’r ras yn gystadleuol, felly gallai cyfranogwyr gerdded, loncian neu redeg eu ffordd ar eu cyflymder eu hunain tuag at y llinell derfyn.
Ymhlith y rhai a gymerodd rhan yn y 10k oedd Lili Ray, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, a phenderfynodd rhedeg gyda grŵp o ffrindiau o’r brifysgol. Dywedodd “Roedd yr awyrgylch ym Mharc Bute yn hyfryd, pawb wedi dod at ei gilydd ar gyfer yn un achos. Ma’ canser yn rhywbeth sydd wedi cael effaith arnom ni fel teulu, felly roedd hynny’n rheswm mawr dros redeg. “Doedd na’m pwysau, dim ond hwyl ar gyfer achos da.
Roeddwn i a’m ffrindia’ wedi rhedeg y cyfan gyda’n gilydd, ac roedd y cwmni wrth redeg yn help mawr. Mi oedd croesi’r llinell derfyn hefo’n gilydd yn rili sbesial. Bydd rhedeg y Race for Life yn siŵr o ddatblygu i fod yn draddodiad blynyddol, a byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd rhan!” Yn yr un modd, cymerodd Gwenno Davies ran yn y ras 5K gyda’i ffrindiau, gan ddisgrifio’r awyrgylch fel un “gefnogol” ac “ysbrydoledig”.
Dywedodd Gwenno “Nes i joio mas draw yn y Race for Life! O’n i ddim yn disgwyl awyrgylch mor gefnogol, ‘odd e mor ysbrydoledig gweld y cefnogwyr yn sefyll o gwmpas y llwybr yn clapio ac yn dal arwyddion! “Roedd e’n brofiad emosiynol gweld gymaint o bobl yn ymdrechu i gyflawni’r sialens, i godi arian dros glefyd sy’n effeithio ar bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Fi’n rhedeg tipyn beth bynnag, felly o’n i’n meddwl ‘pam lai?’ cymryd rhan a chodi arian dros elusen sydd mor arbennig imi.” Pe baech eisiau bod yn rhan o’r achos da, mae cyfle o hyd i gymryd rhan, gyda’r Race for Life yn parhau mewn lleoliadau ledled Cymru.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn Abertawe ar yr 16eg a 17eg o Fai, Llanelli ar 30ain o Fai, yn ogystal ag y Rhyl a Wrecsam dros fisoedd yr haf.

