Cefais gyfle dros wyliau’r haf i wylio llwyth o raglenni sydd wedi bod ar fy rhestr wylio ers tro. Wrth ystyried y rhaglenni hyn oll, does dim amheuaeth mai rhaglen y BBC Lost Boys and Fairies, sy’n dod ar frig fy argymhellion i. Wedi’i selio yn rhannol ar brofiadau go iawn, mae’r gyfres 3 pennod hon, wedi’i gyfarwyddo gan James Kent a’i hysgrifennu gan Daf James, yn dilyn hanes Gabriel, sy’n drag queen, a’i bartner Andy ar eu taith i fabwysiadu plentyn.
Mae’r rhaglen yn cyfosod y gweithredoedd positif o ddechrau teulu a mabwysiadu plentyn gyda themâu tywyll megis trawma plentyndod, marwolaeth, homoffobia a mwy. Yn sicr, mae’r cyfosod creulon o ddigwyddiadau positif a negyddol trwy gydol y rhaglen yn ysgogi amrywiaeth o ymatebion gan y gwylwyr, o wenu twymgalon, i deimlo tristwch dwys. Ni ellir ond teimlo’n flin dros y cymeriadau ar adegau, a theimlo balchder a hapusrwydd drostynt ar adegau eraill, a hyn yn destament i dalent yr actorion.
Rhaid canmol actio Sion Daniel Young, sy’n chwarae rôl Gabriel, am roi mewnwelediad cignoeth i’r gwylwyr i fyd y cymeriad, a chaniatáu i ni ddeall ei gymhlethdod a’i berthnasau amrywiol gyda chymeriadau eraill. Roedd yr holl actorion yn portreadu eu cymeriad nhw mewn modd unigryw a chlir, a rhaid eu cymeradwyo am eu talent. Yn sicr mae’r sgript yn llwyddo cyfleu’r stori mewn modd real a thrawiadol, ac y mae’n caniatáu’r gynulleidfa i ddod i adnabod y cymeriadau ar lefel ddyfnach.
Elfen unigryw o ran sgriptio’r rhaglen hon yw’r dwyieithrwydd. Er mai rhaglen i gynulleidfa Brydeinig ydyw, a Saesneg yw prif iaith y rhaglen, Cymraeg yw’r iaith a ddefnyddir rhwng Gabriel a’i dad, gydag is-deitlau yn cyfieithu’r sgyrsiau. Nid yn unig y mae’r Gymraeg yn gwahaniaethu perthynas gymhleth Gabriel a’i dad i weddill ei fywyd, ond y mae hefyd yn rhoi statws i’r Gymraeg.
Yn sicr, rhaid canmol y rhaglen, nid yn unig am roi llais i leisiau sydd yn y gorffennol wedi cael eu tangynrychioli yn y cyfryngau, megis dau ddyn hoyw, ond hefyd am roi llwyfan i iaith leiafrifol, gan ddangos bod y Gymraeg yn llewyrchus ac nad testun sbort ydyw. Fel siaradwraig Cymraeg brwd, roeddwn yn falch iawn i glywed defnydd y Gymraeg mewn rhaglen mor boblogaidd, ac rwy’n gobeithio y bydd hwn yn agor mwy o ddrysau i’r Gymraeg serennu ar y sgrin yn y dyfodol. Ewch i wylio Lost Boys and Fairies!

