AI, Chat GPT, Gemini. Termau sydd bellach yn rhannau annatod o’n geirfa ni. Maent yn cynnig help llaw pan fo angen ac yn declyn academaidd defnyddiol. Mae’n llenwi ein sgriniau a’n sgrolio, posteri diddychymyg a rhybuddion brawychus am yr amgylchedd. Mae hi’n anodd gwybod ble’n union i sefyll, ai bwgan brawychus yw hwn, ynte teclyn defnyddiol ac arloesol sydd am arwain ein dyfodol?

Un o’r pryderon, er hynny, yw ei allu i gynnal sgamiau mor gredadwy. Yn anffodus, mae sgamiau AI wedi cynyddu bron i 50% yn ddiweddar. Daw hyn wrth i’r dechnoleg allu dynwared lleisiau teulu a ffrindiau mewn trallod. Dywedai 47% o oedolion y Deyrnas Unedig eu bod yn ei gweld hi’n anodd adnabod y gwahaniaeth rhwng cynnwys AI a chynnwys gwir - o le ma’r ystdadegyn yma wedi dod Gall hyn beri gofid mawr, yn enwedig i bobl hŷn a bregus. Bellach, mae’n ysgrifennu mor gywir a medrus, mae hydynoed systemau spam cyfrifiadurol yn ei gweld hi’n anodd ffiltro AI.

Sail AI er hynny yw defnyddio’r system o ddeallusrwydd ymennydd bodau dynol gan drosi hwnnw yn gyfrifiadurol i greu system o ddeallusrwydd di-ddiwedd. O gysidro hyn, ai dychrynllyd neu gywrain ydyw?

Oes yna le felly i gysidro nad bwgan yn unig ydyw? Mae’n gallu bod yn dechnoleg arloesol iawn, sy’n cael ei defnyddio er mawr lles llawer o bethau.

O ran yr iaith Gymraeg mae deallusrwydd AI yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell gan Lywodraeth Cymru i’w cynorthwyo i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Caiff ei defnyddio ar gyfer creu adnoddau i ddysgwyr ac mae ymrwymo’r iaith gyda thechnoleg newydd yn bwysig iawn fel hwb ar gyfer ei dyfodol.

Daw llawer iawn o fanteision eraill hefyd, megis, ei ddefnydd mewn gofal iechyd. Caiff ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i welliannau i gyflyrau eang megis cancr, ac mae’n gallu gweithio yn gynt nac unrhyw fod dynol. Mae AI hefyd yn cyfrannu i’r economi a gall helpu ym maes newid hinsawdd, meysydd amaeth, gwyddoniaeth, trafnidiaeth a seiberddiogelwch gyda’i allu i drin data yn gynt a mwy nac erioed o’r blaen.

O gysidro hyn, mae’n bosib gweld fod dwy ochr. Ydi, mae’n cael ei ddefnyddio yn anfoesegol i dwyllo, yn cael ei wastraffu, ac yn gallu cael ei weld fel bwgan mawr, ond, mae buddiannau anferthol hefyd. Mae posib ei ddefnyddio yn foesegol ac yn wyliadwrus. Ond, y ffaith amlwg yw - mae AI yma i aros. Bydd yn ran anferthol o’n dyfodol.