Gyda Syr Patrick Sanders, Pennaeth y Fyddin Brydeinig, yn rhybuddio bod bygythiad cynyddol Rwsia yn golygu bellach bod yn rhaid i’r DU bellach at ryfel, a’r potensial o orfod cymryd rhan mewn rhyfel o’r fath yn bosib, beth yn union yw oblygiadau hyn i ni?. Wrth ystyried risg y Deyrnas Unedig o fod o dan fygythiad mewn rhyfel newydd a yw hi’n debygol y byddai consgripsiwn yn cael ei gyflwyno? Golyga hynny y byddai’n rhaid i grwpiau o bobl penodol o fewn y gymdeithas ymuno â’r Lluoedd Arfog yn ystod gwrthdaro arfog dwys.

Does dim consgripsiwn wedi’i gyflwyno yn y Deyrnas Unedig ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd (1939-1945). Dywed Cyn-ysgrifennydd Amddiffyn y Deyrnas Unedig, Michael Fallon, ei bod hi’n amser i ‘think the unthinkable’, gan ychwanegu ei bod yn amlwg, os na fydd gwelliant yn nulliau recriwtio’r Lluoedd Arfog, y bydd yn rhaid ystyried opsiynau eraill, petai’r wlad yn dod wyneb yn wyneb â gwrthdaro. O ystyried yr hyn a ddywed Michael Fallon, nid yw’n amhosib na fyddai consgripsiwn yn cael ei ystyried yn y dyfodol.

Wrth gwrs, ni fyddai cyflwyno a gorfodi cyfraith o’r fath yn cael ei groesawu gan y cyhoedd. Pan gyflwynwyd Consgripsiwn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) protestiodd mwy na 200,000 o bobl yn ei erbyn. Mae’n bur debyg mai’r un fyddai’r darlun petai’r sefyllfa’n cael ei hail-adrodd heddiw, o ystyried canlyniadau pôl piniwn diweddar a ddengys mai dim ond 7% o bobl rhwng 18-40 oed ddatganodd y byddan nhw’n fodlon arwyddo i fod yn rhan o’r fyddin pe bai rhyfel byd arall yn torri.

Rhannodd un fyfyrwraig ei barn hi ar y posibilrwydd o gonsgripsiwn yn dod i rym. Dywed Lili:

“Dwi yn erbyn consgripsiwn oherwydd nid ydy’r bobl mewn grym wir yn becso am fywydau pobl gyffredin mewn unrhyw wlad. Maen nhw’n gwthio’r syniad o ‘wladgarwch’ a Phrydeindod er mwyn cael pobl gyffredin i frwydro dros eu buddion gwleidyddol nhw, ond yn gwneud dim ond eu hecsbloetio a’u gadael mewn tlodi a phoen ar ôl rhyfel. Mae tlodi ar ei anterth yn y DU, ac mae ein hawliau yn cael eu cymryd i ffwrdd ohonom ni bob dydd. Pam ddylsen ni frwydro yn enw’r rhai sy’n ein gormesu ni ac eraill ar draws y byd?”

Felly ai consgripsiwn yw’r cam nesaf yng nghynllun y Llywodraeth neu a fydd gwrthwynebiad y cyhoedd yn effeithio ar hynny? Amser a ddengys.