Eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i’r gorllewin pell; byd y ‘Wes, Wes’, yng nghesail mynyddoedd y Preseli. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Ngogledd Sir Benfro yn Llantwd, rhwng 1af a’r 8fed o Awst. Caiff yr Eisteddfod ei halw yn Eisteddfod y ‘Garreg Las’, gyda’r dalgylch yn ymestyn dros dair ardal, sef Sir Benfro, De Ceredigion a Gorllewin Sir Benfro.

Cyfeiria’r enw at ddarn o garreg drawiadol leol, sy’n rhan o dirwedd hanesyddol yr ardal. ## Y Gymuned Leol

Eisoes mae’r gwaith paratoi wedi dechrau, gyda’r targed o £400,000 i’w gasglu gan y gymuned leol ar gyfer cronfa Eisteddfod Genedlaethol 2026 rhwng y tair sir. Mae apeliadau wedi cael eu cynnal, nosweithiau o adloniant, boreau brecwast, twmpathau, pererindodau, ocsiynau a nosweithiau cwis er mwyn casglu arian ar gyfer y brifwyl.

Yn ôl Golwg 360, mae Eurfyl Lewis, Is-gadeirydd y Gronfa Leol wedi sefydlu 20 pwyllgor apêl dros yr ardal i gyd, gan geisio ysbrydoli pobl leol a chynnal ystod eang o weithgareddau. Cred Eurfyl fod hi’n hollbwysig fod pobl ifanc yn rhan o’r Eisteddfod a’r trefnu, gyda thwf mewn addysg Gymraeg yn Sir Benfro yn golygu bydd cefnogaeth i’r Eisteddfod a’r iaith Gymraeg ar lawr gwlad. Dywedodd Gruff Jones, un o drigolion ifanc lleol yr ardal: “Dwi’n hynod o gyffrous i gael Eisteddfod Genedlaethol yn fy mro i.

Dwi’n hynod o gyffrous i gael Eisteddfod Genedlaethol yn fy mro i

Mae’r ardal gyfan yn agos at fy nghalon i, yn enwedig tref Aberteifi, sydd wedi dod yn le arbennig o ran pob math o bethau Cymreig a Chymraeg. Allen i ddim meddwl am le gwell i gynnal Eisteddfod Gen.” ## Digwyddiadau Arbennig

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, bydd Super Furry Animlas yn dychwelyd i Lwyfan y Maes, y tro cyntaf iddynt berfformio yn yr Eisteddfod ers 30 mlynedd. Hwn bydd yr unig gig uniaith Gymraeg bydd y band yn gwneud.

Mae’r Eisteddfod yn rhagweld y noson fel un boblogaidd, ac wedi creu tocynnau diwrnod a gwersylla arbennig ar gyfer y noson. Yn ogystal, mae’r band Y Bandana yn ail-ffurfio ar gyfer ei gig ar Lwyfan y Maes ar nos Wener yr Eisteddfod. Roedd perfformiad olaf y band yn yr Eisteddfod yn Y Fenni yn 2016, ac mae’r band wedi cael 10 mlynedd o seibiant ers hynny.

Dywedodd Sion Owens, basydd band Y Bandana wrth BBC Cymru Fyw: “Ein bwriad ydi mynd ar gynulleidfa nôl mewn amser gan greu set llawn nostalgia!” ## Maes B/ Hwyrnos

Unwaith eto, mae yno gyffro ynglŷn â ‘lein-yp’ Maes B, ble bydd pobl ifanc yn cwrdd a dathlu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r bandiau hen ac eiconig yn ail ymweld â llwyfannau Maes B, megis Bwncath, Candelas, Fleur De Lys, Eden a Phys Melyn. Hefyd bydd bandiau ac unigolion sy’n newydd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, fel Lafant, Betsan, Martha Elen a Tew Tew Tennau yn perfformio ar lwyfannau Maes B.

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl sy’n bwysig ar gyfer cynulleidfa o bob oed. Y llynedd lansiwyd Hwyrnos, safle gwersylla ar gyfer Eisteddfodwyr sydd dros 21 ac efallai’n teimlo rhy hen i wersylla yn Maes B. Yn sicr, mae edrych ‘mlaen mawr at yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda gwaith paratoi wedi hen gychwyn.

Bendant, mae’r bobl leol yn barod i groesawu Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru.