Mae’n ganmlwyddiant y BBC yng Nghymru eleni, a dethlir y digwyddiad hwn gydag arddangosfa arbennig yng nghanol y ddinas, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ar ôl mynychu’r arddangosfa ym mis Ebrill, cefais fy nhywys ar daith dros y Ganrif, o’r cychwyn cyntaf ym 1923 hyd at heddiw. Cefais brofiad amlgyfrwng a ganolbwyntiodd ar ddatgelu hanes cwmni darlledu mwyaf poblogaidd y wlad.
Mae’r arddangosfa ar hyn o bryd yn preswylio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Profwyd i fod yn arddangosfa gynhwysol gyda mynediad am ddim i bob oedran, rhwng y 10fed o Ragfyr 2022 i’r 3ydd o Fedi 2023. Felly mae gennych hen ddigon o amser i brofi a dysgu am hanesion y BBC dros y can mlynedd diwethaf.
Roedd yna liaws o wrthrychau, graffiau, lluniau a fideos i ddenu’ch sylw. Er enghraifft, gallwch weld y “meicroffon cyfweld” a ddefnyddiwyd gan ohebwyr yr Ail Ryfel Byd. Profiad addysgol oedd astudio’r gwrthrychau hyn a sylwi ar y newid sylweddol sydd wedi digwydd ers yr oes honno at offer newyddiadurol technolegol.
Roedd sôn am baratoadau at ohebiad y Coroni yn 1937 sydd, wrth gwrs, yn berthnasol i’r oes sydd ohoni gan ein bod newydd goroni Brenin newydd. Roedd yn agoriad llygaid gweld y trawsnewidiad a fu mewn technoleg ers i ni goroni ein Brenhines ddiwethaf.
Wrth deithio ymhellach drwy’r arddangosfa, gwelwyd trafodaeth ar safle menywod o fewn y BBC a sut y newidiwyd eu hawliau a’u profiadau law yn llaw. O ‘Andy Pandy’ i ‘Pobol y Cwm’; o ‘Doctor Who’ i ‘Lili Lon’ - does dim dwywaith bod yr arddangosfa yn darparu hanes a ffeithiau at ddant pawb.
Nid adrodd ffeithiau ac ystadegau yn unig y mae’r arddangosfa yn ei wneud, mae hefyd yn dadlau ambell i elfen wleidyddol a chymdeithasol. Mae rhai o’r elfennau hyn yn cynnwys gwyddoniaeth ddiduedd, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a’r ffenomenon ar-lein ‘clickbait’.
Nid yw’r arddangosfa yn amddiffyn tueddiadau’r BBC neu’n ceisio cuddio breintiau’r sefydliad chwaith. Roedd yna bwyslais cynyddol ar duedd y cwmni darlledu, a’r modd y mae pobl yn ei feirniadu ar ambell i achlysur. Gwelwyd dwy ochr i’r ddadl yn gyson ac roedd yna bob amser wybodaeth o safbwyntiau gwahanol. I ychwanegu at hynny, roedd yna gyfle i ddweud eich dweud a chyfrannu at y sgwrs wrth ysgrifennu syniadau ar ‘Post-its’.
Fues i erioed i arddangosfa o’r un fath a’r un hon. Dysgais ystod eang o wybodaeth ac roedd modd gwneud mewn ffyrdd a oedd yn ychwanegu barn y cyhoedd i’r sgwrs. Os hoffech chi ddilyn gyrfa ym myd y cyfryngau, yn hoff o ymhyfrydu mewn diwylliannau hanesyddol, neu hyd yn oed â diddordeb cyffredinol yn y BBC, dyma’r lle i fynd!
Mae’r arddangosfa yn berthnasol i’r BBC a welwn heddiw ac wrth adael roeddwn i’n cwestiynu dyfodol y byd darlledu a’r newidiadau yr ydym yn debygol o’u gweld yn y blynyddoedd nesaf.
Gellid dadlau bod yr arddangosfa bron yn rhy onest, weithiau yn portreadu’r BBC mewn modd gwael a thueddol. Ond, ar yr un pryd mae bod yn agored am yr ochrau negyddol yn atgoffa ni fel cyhoedd i barhau i gwestiynu’r hyn yr ydym yn ei weld ar-lein. Roedd yn ddadl ddiddorol ac addysgol a oedd yn addas i bobl o bob oedran.

