Yn sicr, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod lwyddiannus o dan arweiniad a gofal aelodau Pwyllgor 2025/26. O gyffro gwyllt Wythnos y Glas ym mis Medi, y crôls di-ri a’r atgofion bythgofiadwy; heb os, mae pob un o aelodau brwdfrydig y GymGym wedi cael blwyddyn arall i’w chofio eleni. Crôl Teulu, Crôl Cripi, Crôl Mîms Eiconig, Crolig, Crôl Odliadur – dyma flas yn unig o’r nosweithiau campus a lwyddodd i’n diddanu eleni.
Amhosibl yw anghofio hefyd am y penwythnos tyngedfennol nôl ym mis Chwefror ble croesawyd yr Eisteddfod Rynggolegol yn ôl i’r brifddinas am y tro cyntaf mewn dros ddegawd. Cyfle amhrisiadwy i 600 o fyfyrwyr o brifysgolion ledled Cymru ddod ynghyd i ddathlu, cymdeithasu a chystadlu. Bu i ni ffarwelio â’r ddinas am benwythnos yn ogystal gan heidio ar y fferi i Ddulyn.

Er gwaethaf hynt a helynt y daith hirfaith adref, roedd Dulyn yn gyrchfan perffaith i gymdeithasu ac ymgolli yng nghynnwrf Pencampwriaeth y 6 Gwlad. Elliw Strain oedd is-lywydd y Pwyllgor eleni ac wedi mwynhau’r profiad yn arw. Dyma oedd ganddi i’w ddweud wrth adlewyrchu ar y misoedd diwethaf: “Mae eleni wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i aelodau’r GymGym gyda presenoldeb, yn enwedig yn Retros drwy gydol y flwyddyn wedi adlewyrchu hynny!
Yn bennaf, ‘dwi wedi mwynhau croesawu’r glasfyfyrwyr yn Wythnos y Glas a chael cymysgu gyda cymaint o bobl.” Wrth i Elliw ymadael â’r rôl, bu iddi gynnig ychydig o gyngor i’r Pwyllgor newydd. Cynghorodd: “Top tip i Bwyllgor y flwyddyn nesaf – sicrhewch eich bod yn wyneb cyfarwydd i’r glasfyfyrwyr a byddwch mor groesawgar a phosibl.” Mae Sami Sullivan yn fyfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac wedi cael amser wrth ei fodd gyda’r gymdeithas eleni. Dywedodd Sami: “Mae wedi bod yn flwyddyn prysur gyda llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol gwych.
Nes i fwynhau’r wledd Nadolig yn fawr a roedd y daith i Ddulyn yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn.” Tydi ymuno â cymdeithas ddim yn brofiad hawdd yn enwedig i fyfyrwyr newydd yn ystod eu dyddiau cyntaf yn y brifddinas. Ond, bu i Sami ganmol y croeso a dderbyniodd gan y GymGym yn ystod y cyfnod ansicr hynny’n fawr. Dywedodd: “Cawsom ni groeso da wythnos freshers a fe wnaeth yr holl grôls amrywiol roi’r cyfle i gwrdd â phobl newydd.” Er hynny, mae bellach yn amser trosglwyddo awenau’r Pwyllgor eleni i aelodau angerddol newydd.
Yn dilyn y broses ymgeisio a’r pleidleisio, y canlynol sydd wedi hoelio eu lle ar bwyllgor y GymGym ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Llongyfarchiadau enfawr i: Rhodri Jenkins, Y Llywydd, Efa Llew, Is-Lywydd, Gethin Roberts, Trysorydd ac i Sioned Roberts yr ysgrifennydd. Pob hwyl i’r Pwyllgor newydd a chawn edrych ‘mlaen am gystal blwyddyn fis Medi.
Ond, am nawr cyn ffarwelio’n llwyr, cawn droi ein gorwelion tuag at, ac edrych ymlaen am Wythnos y GymGym ym mis Mehefin i goroni beth sydd wedi bod yn glasur o flwyddyn i’r GymGym.
