Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd eleni bu i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fynd ati i sefydlu Undeb o’r newydd; Undeb Cristnogol Cymraeg Caerdydd.
Yn wir, mae dros 200 o gymdeithasau ac undebau ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol i sicrhau fod ein hamser yma yn y brifddinas yn un bythgofiadwy.
Mae ystod o undebau eisoes wedi’u sefydlu i sicrhau fod rhywbeth at ddant pob un ohonom. Fodd bynnag, nid oes gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd gymdeithas nac Undeb ar gyfer Cristnogion Cymraeg.
Hyfryd felly yw gweld myfyrwyr ein Prifysgol yn dod ynghyd i sefydlu’r Undeb a llenwi’r bwlch yn y ddarpariaeth.
Mae Taf-Od wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyfweliad gyda Steff Davies, un o sefydlwyr yr Undeb. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:
Beth yw cefndir yr Undeb?
“Rydyn ni’n grŵp o oddeutu 15 i 20 o Gristnogion sydd yn siarad Cymraeg yma yng Nghaerdydd, naill ai dal i fod yn astudio yn y Brifysgol neu newydd adael.”
“Penderfynom sefydlu’r Undeb yn gynharach yn y flwyddyn. Aethom ati i greu ‘group chat’ ar WhatsApp er mwyn cysylltu siaradwyr Cymraeg sydd yn Gristnogion o ystod o eglwysi ledled Caerdydd.”
“Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ar yr 8fed o Fehefin ac rydym eisoes wedi cael sawl cyfarfod ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd er mwyn trafod ein syniadau ar sut y gallwn foli Iesu yn y brifddinas.”
Beth yw bwriad yr Undeb?
“Ein bwriad fel Cristnogion bob tro yw rhannu’r newyddion da am Iesu. Yn benodol yn yr Undeb, rydyn ni’n awyddus i gysylltu gyda myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yng Nghaerdydd sy’n chwilfrydig am Gristnogaeth gan rannu’r gobaith sy’n gwreiddio o’r groes a sut y dylem ymateb i’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud wrthym.”
“Rydym yn bwriadu gwneud hyn trwy gynnal digwyddiadau amrywiol ar draws y flwyddyn. Gobeithiwn ffurfio cymdeithas o fewn yr Undeb i weddïo a darllen Gair Duw gyda’n gilydd.”
Pa fath o weithgareddau ydych chi'n eu cynnal?
“Rydyn ni’n dal i fod yn nyddiau cynnar o ran cynllunio. Ond, y syniadau sydd wedi dod i’r amlwg yn ein cyfarfodydd diweddar yw digwyddiadau gwahanol sy’n canolbwyntio ar wahanol bynciau mewn cyd-destun Cristnogol.”
“Un syniad yr hoffwn ei wireddu yw gwahodd siaradwyr gwadd o’r byd chwaraeon, y Gymraeg, hanes a gwleidyddiaeth i ddod i siarad ac esbonio sut maen nhw wedi profi gras Duw yn eu bywydau.”
“Yn ogystal, dwi’n siŵr y bydd digwyddiadau megis ‘Cawl a chân’ ac ati, a chyfleoedd i ni drafod y cwestiynau mawr megis er enghraifft, ‘Pwy yw Iesu?’ a ‘Beth yw bod yn Gristion?’”
“Fel Undeb byddwn hefyd yn hala amser yn cymdeithasu ac yn cwrdd bob yn ail wythnos i ddarllen y Beibl gyda’n gilydd, moli Duw a thrafod syniadau.”
Pwy all ymuno â'r Undeb?
“Mae’r UCCC yn agored i unrhyw un. Os oes diddordeb gyda chi, plîs cysylltwch â ni trwy ein cyfrif Instagram neu cysylltwch â rhywun rydych chi eisoes yn ei adnabod sy’n rhan o’r Undeb … bydd croeso cynnes i chi.”
Roeddwn i ymhlith y myfyrwyr oedd yn ddigon ffodus i fynychu un o ddigwyddiadau cyntaf yr Undeb ddechrau mis Hydref. Draw yn Eglwys y Crwys cafwyd noson o ganu emynau megis Dyma Gariad fel y Moroedd, Mi Glywaf Dyner Lais, Arglwydd, Arwain Trwy’r Anialwch a Chalon Lân.
Drwy ganu, sgwrsio a chymdeithasu dros baned, cawsom gyfle i ddod i adnabod Cristnogaeth yn well.
Roedd Gruff Jones hefyd ymhlith myfyrwyr y Brifysgol a fynychodd y digwyddiad. Dywedodd Gruff wrth Taf-Od:
“Cefais noson wych yn canu emynau. Roedd cyd-ganu emynau cyfarwydd Cymreig yn Gymraeg gyda grŵp o fyfyrwyr yn deimlad hynod o braf.”
Mae’r Undeb yn cyfarfod bob pythefnos ar nosweithiau Llun mewn gwahanol leoliadau ledled y brifddinas gyda digwyddiadau ehangach yn cael eu cynnal bob mis.
Mae’r digwyddiad nesaf eisoes wedi’i drefnu. Bydd yr Undeb yn cynnal ‘Cwis Chwaraeon Cymreig’ yn Nhafarn y Crwys ar yr 16eg o Dachwedd. Cadwch y dyddiad!
Awydd ymuno? Cysylltwch â’r Undeb drwy eu cyfrif Instagram; @ucccaerdydd.
Ewch amdani a chofiwch fel y bu i Steff bwysleisio, fod croeso i unrhyw un.

