Daeth diwrnod hanesyddol tu hwnt i dimoedd rygbi Prifysgol Caerdydd yn Ornest Caerdydd cyntaf y flwyddyn academaidd ddydd Mercher diwethaf. Sicrhaodd y ddau dîm fuddugoliaethau, gan gipio’r dwbl oddi wrth Met Caerdydd am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth.
Er fod y ddwy gêm wedi bod yn llawn cyffro ac emosiwn, roedd buddugoliaeth y merched yn un i’w gofio, gan mai dyma’r tro cyntaf erioed iddynt guro tîm Met Caerdydd ym Mharc yr Arfau.
24-20 oedd y canlyniad terfynol, gyda dwy gais i’r asgellwraig Katie Terrell, un i Georgina Bullen, ac un i’r capten, Cleo Pallister-Turley.
Yn ôl y prif hyfforddwr, Kerry Jenkins, roedd hi’n “hynod o falch o sut berfformiodd y merched”.
Ychwanegodd fod y tîm wedi chwarae gyda “chalon a phenderfynolrwydd”, a bod pawb yn gallu gweld pa mor awyddus oedd y chwaraewyr i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Dyma ganlyniad a synnodd nifer o bobl, yn enwedig yn dilyn sylwadau honedig prif hyfforddwr y tîm gwrthwynebol ychydig ddyddiau ynghynt. Dywedodd Lisa Newton y byddai “gwahaniaeth corfforol” y ddau dîm o fantais i Met Caerdydd a’i bod yn edrych ymlaen yn fawr i chwarae. Ond, yn anffodus iddi hi a’i thîm, ni aeth y gêm eu ffordd nhw ddydd Mercher.
Ymatebodd capten Prifysgol Caerdydd, Cleo Pallister-Turley, i’r sylwadau hyn drwy bwysleisio na ddylai Met Caerdydd danamcangyfrif ei thîm. Dywedodd fod yr holl waith caled gafodd ei roi mewn yn ystod y cyfnod cyn-dymor am roi sioc i Met Caerdydd ac yn bendant talodd hyn ei ffordd yn y gêm.
O fewn yr 15 munud cyntaf, daeth cryfder, cyflymder a sgiliau Katie Terrell i’r amlwg wrth iddi redeg heibio’r amddiffynwyr i sgorio cais cyntaf y gêm – ac am gais oedd hwn.
Dywedodd Katie, “Roedd ennill yn un or teimladau gorau erioed. Dwi’n credu ein bod ni wir wedi haeddu’r fuddugoliaeth. Aethom ni allan yno fel un, nid fel unigolion, a dangos i bawb beth oeddem yn gallu cyflawni.”
Erbyn diwedd yr hanner cyntaf, roedd tîm merched Prifysgol Caerdydd wedi gosod 24 pwynt ar y sgorfwrdd, gan roi eu hunain mewn sefyllfa addawol iawn cyn dechrau’r ail hanner.
Fodd bynnag, daeth Met Caerdydd yn ôl yn gryfach yn y 40 munud olaf, gan leihau’r bwlch yn y sgôr a rhwystro Prifysgol Caerdydd rhag ychwanegu o gwbl at eu cyfanswm. Er gwaethaf ymdrechion Met Caerdydd, nid oedd eu perfformiad yn ddigon y tro hwn i sicrhau buddugoliaeth.
Daeth y gem i ben gyda’r sgôr yn 24-20 i dîm merched Prifysgol Caerdydd, gan seilio buddugoliaeth hanesyddol fydd yn y co’ am amser hir.

