Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Guinness World Records wedi ymuno gyda S4C ar Ddydd Gŵyl Dewi am ddiwrnod o dorri recordiau byd a dathlu talent Cymru.
Cafodd 7 record eu torri yn amrywio o addurno cacennau i ddaliad trapîs yn hongian ben i waered.
Dyma hanes y diwrnod:
Amser byrraf i dîm o ddwy lusgo trên stêm 20 metr ar reilffordd gul
Llwyddodd y cwpl priod Sam Taylor a Sue Taylor Franklin, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel cwpwl lesbiaidd cryfaf Prydain, i dorri’r record unwaith eto ar eu hail ymgais, gan gwblhau’r her mewn 40.53 eiliad.
Yn 2021, enillodd Sam deitl y drydedd ddynes gryfaf yn y byd.
Maen nhw hefyd yn dal y record byd am dynnu awyren Airbus A320 sy’n pwyso 48 tunnell.
Yr amser byrraf i deipio Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch gydag un bys
Ellen Baker sy’n dal y record yma a deipiodd enw’r pentref yn Ynys Môn mewn 15.33 eiliad.
Mae’r ardal hefyd yn dal record am y gair hiraf mewn croesair, ac yn dal yr ail safle am enw lle hiraf yn y byd gyda 58 llythyren.
Nifer mwyaf o flodau ar ffrog
Yn cipio’r record byd hon yw’r eicon drag a gyrhaeddodd rownd gynderfynol RuPaul’s Drag Race UK – Marmalade. O serennu ar y gystadleuaeth wnaeth hi syfrdanu’r beirniaid gyda’i chreadigrwydd o ddylunio a chreu gwisgoedd.
I dorri’r record yma, creuodd ffrog wedi’i haddurno gyda 1,862 cennin Pedr.
Nid dyma’r tro cyntaf iddi greu gwisg yn gysylltiedig â Chymru, ar ei ‘runway’ cyntaf ar RuPaul’s Drag Race UK, seiliodd wisg drawiadol ar y Fari Lwyd.
Nifer mwyaf o gacennau i’w haddurno gydag eisin mewn 3 munud yn unig
Seren deledu arall o Gymru a dorrodd record byd yw cystadleuydd Great British Bake Off – Michelle Evans-Fecci.
Er mwyn torri’r record roedd yn rhaid iddi addurno 53 cacen, a llwyddodd i gwblhau 66.
Nid dyma ei record gyntaf chwaith. Mae hefyd wedi bod yn rhan o greu’r pice ar y maen fwyaf, a bwysodd 28kg a dros 6 troedfedd mewn diamedr, ar y cyd gydag aelodau o Ferched y Wawr, popty tan y Castell a Teifi Forage yng Nghaerfyrddin. Cymerodd 8 munud i goginio bob ochr.
Nifer mwyaf o symudiadau troelli gan dîm cyfnewid mewn awr
Cyflawnodd y record byd hon gan aelodau o Arts Care Gofal Celf, sefydliad celfyddydol elusennol yng Nghymru sy’n cefnogi pobl ag anableddau ac awtistiaeth.
Cymerodd 46 o bobl yn gyfangwbwl ran yn y ras gyfnewid.
Y lleiafswm angenrheidiol i gael record oedd 250 o droelliadau, llwyddon nhw i chwalu hyn gan droelli 921 o weithiau.
Nifer mwyaf o ddaliadau ffêr i sefyll ar drapîs siglo mewn un munud
Nifer mwyaf o daliadau ffêr i sefyll ar drapîs siglo mewn un munud
Eric McGill sy’n dal y record yma ble mae’r trapîs yn siglo’n ôl ac ymlaen tra ei bod yn sefyll ar y bar.
Yn wreiddiol yn dod o Ganada, mae ei gartref nawr yng Nghymru.
Cwblhaodd 11 o ddaliadau gyda 10 eiliad i sbario.
Daliad trapîs yn hongian o droed i droed am yr amser hiraf (tîm o ddau)
Efeilliaid Grace a Clemetine Tonkin Wells o Sir Benfro dorrodd y record hon. Roedd un ohonynt yn hongiad wyneb i waered, yn dal y trapîs gyda’i thraed yn unig, tra bod ei chwaer yn sefyll ar wadnau ei thraed gan gydbwyso heb afael yn rhaffau’r trapîs.
I dorri’r record roedd rhaid iddynt wneud hyn am 60 eiliad, a llwyddon nhw chwalu hyn gan ei wneud am 5 munud.
Fydden i’n awgrymu i chi adolygu’r rhain yn fanwl gan fod rhai cwestiynau cwis bob dydd yn seiliedig ar y campau trawiadol yma!

