Rydyn ni fel pwyllgor yn gallu cytuno mai penwythnos a hanner oedd hi yn Llambed! Heb os nac oni bai, dyma uchafbwynt eleni i ni’r pwyllgor hyd yn hyn. Mae’r GymGym wedi joio mas draw a hefyd wedi profi mai ni yw’r brifysgol sy’n gwybod sut mae cael amser da!

Ar brynhawn Gwener roedd cystadlu ar hyd y campau gan gynnwys rygbi, pêl-droed merched a bechgyn a’r bêlrwyd. Roedd y GymGymwyr yn gefnogwyr brwd ac yn sicr roedd hyn o gymorth i’n harwain i’r brig. Caerdydd oedd yn fuddugol yn y chwaraeon ac mi gafodd y cwpan ddigon o hwyl ar y nos Sadwrn yn mynd o dafarn i dafarn ac yna lan i Aber. Ond peidiwch â phoeni mae hi nôl yn ddiogel yn Cathays!

Ar y dydd Sadwrn, roedd y cystadlaethau llwyfan. Efallai mai prin oedd ôl ymarfer Caerdydd ond doedd neb yn ofn mynd ar lwyfan a rhoi tro arni. Cymryd rhan sy’n bwysig cofiwch! Un uchafbwynt penodol o’r Eisteddfod i’n his-lywydd, Catrin Edith, oedd y GymGymwyr yn dod at ei gilydd a chantio ‘Edith’! Rydyn ni’n siŵr fod cartwheel Cynwal yn ystod y dawnsio disgo yn aros yn y cof i sawl fyfyriwr oedd yno ddydd Sadwrn! Braf oedd gweld pawb yn dod at ei gilydd o holl brifysgolion Cymru i gystadlu, ond bwysicaf oll, i fwynhau.

Balchder oedd y gair i ni fel pwyllgor i ddisgrifio’r penwythnos wrth i ni gefnogi bob aelod trwy ddawns, chwaraeon, can a chwrw. Roedd cipio’r wobr gyntaf yn y twrnamaint chwaraeon yn binacl ar benwythnos gwych! Nid yw’r dathlu wedi stopio eto, rydyn ni’n edrych ‘mlaen i’r 15fed o Fawrth i’r Crôl y Champions, i barhau’r dathliadau. Welwn ni chi yno!