Dwi’n siwr y byddai llawer o rieni bron â mynd o’u co pe bawn nhw’n troi’r teledu mlaen ddechrau fis Tachwedd ac yn gweld hysbysebion Nadolig, digwyddiad bron ddau fis i ffordd, wedi’u cyhoeddi – a’r haf newydd ddod i ben. A’u plant yn gweiddi’n gyffrous ar y sgrin yn mynnu i gael sach o anrhegion newydd sbon ddydd Nadolig.

Er fy mod yn cydnabod fod gweld yr hysbysebion hyn yn sioc i’r system i lawer o rieni a phobl ar draws y byd, credaf fod hyn yn amser addas a phwrpasol i gyhoeddi’r hysbysebion am nifer o resymau...

Os ydych yn berson trefnus, mae hysbysebion ddechrau fis Tachwedd yn ddelfrydol i chi. Dyma gyfl e i fanteisio ar y cyfl e i ddod o hyd i’r ‘sales’ yn y siopau a’r bargenion sydd ar gael ar ein cyfer, cyn i bawb arall gymryd y cyfl e!

Heb os, mae’r hysbysebion yma mewn ffordd yn ein helpu i beidio bod yn funud olaf.

Er mwyn osgoi’r siom Noswyl Nadolig fod anrheg heb gyrraedd mewn pryd neu ddim ar gael yn y siopau, mae manteisio ar siopa pan fydd yr hysbysebion dolig allan ddechrau fis Tachwedd yn syniad da.

Wedi dweud hyn, efallai y bydd plant ifanc yn mynd yn ddiamynedd o weld yr hysbysebion yn gynnar cyn y ‘dolig, oherwydd y byddant yn disgwyl a disgwyl am eu anrhegion ond mewn realiti, mae bron dau fis i fynd cyn iddynt gael cyfl e i wneud defnydd ohonynt!

Heb os nac onibai, mae dwy ochr i’r ddadl ond o ystyried mor fawr mae Gwyl y Nadolig wedi mynd, efallai bod hi’n werth dechrau ar yr ysblander yn gynnar er mwyn ymlacio a chael amser da gyda theulu a ffrindiau dros yr adeg!