Mae Cymru fel cenedl wedi bod yn cadw llygaid barcud ar y byd chwaraeon yn ddiweddar wrth i’r wlad gystadlu ar y lefel uchaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd, a gemau pêl-droed Rhagbrofol Euro 2024.
Wrth ddechrau gyda’r rygbi, siom enfawr oedd gweld y crysau cochion yn colli mas i’r Ariannin yn yr wyth olaf, mewn gêm gystadleuol a orffennodd gyda’r Puma’s yn fuddugol o 29-17. Mae’r sgôr gorffenedig yn gamarweiniol, rhaid ystyried roedd y sgôr yn gyfartal ar 17 pwynt yr un gyda 12 munud ar ôl, a bu’r gêm yn gallu mynd y naill ffordd ar y pwynt yma. Bu’r golled yn anodd i Gymru gan eu bod yn dominyddu’r gêm am fwyafrif yr hanner cyntaf, ond yn ei gweld yn anodd cymryd mantais o’r chwarae da gyda phwyntiau, wrth orffen yr hanner triphwynt yn unig ar y blaen.

Gyda sawl chwaraewr allweddol yn cario anafiadau bychan, mae’n debygol roedd y gêm un yn ormod i Gymru, sydd yn anffodus wedi gorffen eu hamser yn Ffrainc yn dilyn pencampwriaeth llawn syndod, gobaith a chyffro.
“Rydyn ni yn hyderus bod ni’n gallu ‘neud rhywbeth spesial” – Ben Davies, amddiffynnwr Cymru’’ Ben Davies - amddiffynnwr Cymru
Mae gobeithion carfan pêl-droed Cymru yn bell o fod ar ben, gyda thîm Rob Page yn cystadlu am le yn rowndiau terfynol yr Ewros yn yr Almaen y flwyddyn nesaf. Bu’r garfan newydd-ei-olwg yn brwydro’n arwrol yn erbyn tîm cryf, profiadol y Croatia ac yn ennill triphwynt hanfodol yn erbyn ffefrynnau’r grŵp. Gôl taclus gan Harry Wilson rhoddodd Cymru ar y blaen, ond ei beniad o groes Daniel James brofodd yn dyngedfeddol wrth roi Cymru ar y blaen o ddau gôl i ddim. Gôl Mario Pašalić oedd yr unig i Groatia wrth iddynt golli am y tro cyntaf i Gymru yn eu hanes.

Bu cwestiynau am dynged Rob Page fel rheolwr y tîm pêl-droed rhyngwladol yn amgylchynu gwefannau cymdeithasol yn y dyddiau yn arwain at y gêm hon yn y brifddinas, ond mae’n sicr bod Page a’i ddynion wedi’u huno er mwyn dangos y gallu sydd ganddynt. Mae cefnogwyr Cymru yn teimlo’n hyderus y bydd Page yn arwain y garfan am y 2 gêm sy’n weddill yn gemau rhagbrofol yr Ewros, sydd i’w chwarae ym mis Tachwedd.
Mae’r ddwy gêm sy’n weddill yn hanfodol i ymdrechion Cymru i gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros haf nesaf, gydag Armenia a Thwrci yn sefyll yn eu ffordd. Bu Cymru’n colli i’r ddwy wlad ym mis Mehefin, ond yn gobeithio y gallent orffen yr ymgyrch yn llwyddiannus gyda buddugoliaethau a fydd yn warant lle iddynt yn yr Almaen yr haf nesaf.
