Mae ymgyrchwyr iaith Gymraeg yn galw ar holl ysgolion Cymru fod yn gyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae ymgyrchwyr o Gymdeithas yr Iaith wedi galw yn ddiweddar am wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol addysg yng Nghymru. Yn ôl ffigurau SYG o 2021, roedd 29.1% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl canlyniadau diweddaraf y Cyfrifiad, bu gostyngiad o 1.2% o gymharu â 2011 - gostyngiad o tua 23,700 o bobl. Mae’r Senedd wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050. Mae Llwyodraeth Cymru yn buddsoddi £44 miliwn yn y Gymraeg ar gyfer 2022/23. Mae’r grŵp Cymdeithas yr Iaith, yn dweud bod angen newid radical yn dilyn gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r grŵp ymgyrchu eisiau bod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol – maen’t eisiau i’r llywodraeth osod targed statudol i bob ysgol yn y wlad i ddod yn gyfrwng Cymraeg erbyn yr un flwyddyn. Mae’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Addysg ddrafft Cymdeithas yr Iaith yn cynnwys:
· Gosod targed statudol mai’r Gymraeg fydd iaith system addysg Cymru erbyn 2050
· Sefydlu rheol bod yn rhaid i bob ysgol newydd fod yn un cyfrwng Cymraeg
· Disodli cynlluniau strategol addysg Gymraeg lleol gydag un fframwaith cenedlaethol
· Gosod pob ysgol ar lwybr tuag at ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 fan bellaf
· Rhoi dyletswydd ar gynghorau i ddarparu cludiant am ddim i ysgolion Cymraeg
Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones: “Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth dargedau ar gyfer nifer y plant Blwyddyn 1 y dylid eu haddysgu yn y Gymraeg erbyn 2026 a 2031. Mae’r twf hwn yn rhy araf os yw’r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd is-gadeirydd grŵp addysg y gymdeithas, Toni Schiavone, wrth raglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar, fod angen “newid radical a thrawsnewidiol” er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac ennyn diddordeb pobl ar bob lefel. Pan ofynnwyd i Jeremy Miles sef Gwenidog dros Addysg a’r Gymraeg a oedd yn cytuno a galwadau Cymdeithas yr Iaith, dywedodd: “Dydw i ddim o blaid hynny – rydym ar lwybr nawr lle mae nifer y plant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol ar gynnydd. Yr hyn rydw i eisiau ei weld yw cynnydd yn y niferoedd sy’n dewis addysg Gymraeg, i fanteisio ar hynny ac i gael yr hyder a’r gallu i siarad Cymraeg.”
