Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau cynlluniau i waredu 400 o swyddi - sy’n 7% o’r gweithle, tra bod cynnydd mewn costau a gostyngiad mewn cyllid.

Cynigir cau cyrsiau gan gynnwys nyrsio, ieithoedd modern, cerddoriaeth, hanes hynafol, cyfieithu, crefydd a diwinyddiaeth ac yn sgìl hyn bydd ymgynghoriad o 90 diwrnod.

Mae Ysgol y Gymraeg hefyd o dan fygythiad o gael ei huno ag adrannau eraill.

Cefndir ariannol y Brifysgol

Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd mewn dyled o £31.2 miliwn.

Yn ystod flwyddyn academaidd hon (24/25), cafodd cyllid o Lywodraeth Cymru ei dorri gan £3.6 miliwn – sy’n ostyngiad o 5.2%.

Prif ffynhonnell incwm Prifysgol Caerdydd yw ffioedd dysgu, sy’n dod i £328.3 miliwn— mwy na hanner ei hincwm ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, mae nifer y myfyrwyr rhyngwladol, sy’n talu ffioedd uwch, wedi gostwng yn sylweddol.

Er hyn, gwariodd y brifysgol £680 miliwn y llynedd—£31 miliwn yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd hwn yn bennaf yn sgìl costau staffio uwch a gwariant eiddo, wedi’u hysgogi gan chwyddiant ac ymchwydd mewn prisiau cyfleusterau.

Dywedodd y Brifysgol petaen nhw ddim yn ystyried gwneud y toriadau yma, ni fydd arian ganddynt ar ôl.

Yn ôl Dr Andy Williams, cynrychiolydd Caerdydd UCU (Undeb Prifysgolion a Cholegau) a darlithydd yn JOMEC:

“Mae pawb mewn sioc o ran maint y toriadau hyn. Bydd y toriadau yma’n niweidio’r brifysgol, y ddinas, a Chymru yn ogystal â’n haelodau.”

Yn ôl Fflur James, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Ffrangeg mae wedi’i siomi o glywed cynlluniau’r toriadau.

“Daw’r newyddion yma’n sioc fawr i ni fel myfyrwyr Cymraeg, a hefyd fel myfyrwyr yr adran Ieithoedd modern. Mae dysgu Ieithoedd Modern yma yng Nghymru mor hanfodol os ydyn ni am barhau i weld Cymru’n ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol.”

“Ond am wn i, dyma fydd dechrau’r diwedd i’r Cymry rhyngwladol yn fy marn i.”

Dyma fydd dechrau’r diwedd i’r Cymry rhyngwladol

“Mae meddwl am fy athrawon presennol yn gorfod mynd drwy’r fath brofiad erchyll yn torri fy nghalon, gan gofio pa mor gefnogol a gweithgar mae bob un ohonyn nhw wedi bod i’w holl fyfyrwyr ar hyd y blynyddoedd.”

Arian wrth gefn gan y Brifysgol

Mae gan y sefydliad £506 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn sy’n anghyfyngedig, sydd wedi cynyddu mwy na 50% mewn blwyddyn, yn ôl ffigyrau Newyddion S4C. Dywedodd darlithwyr undeb UCU y dylai ychydig o’r arian yma gael ei ddefnyddio i leihau toriadau.

Ond ymatebodd y Brifysgol i hyn yn dweud nad oedd y cronfeydd wrth gefn yn arian parod y gellid ei ddefnyddio’n rhydd a bod costau addysgu ac ymchwil £31.2 miliwn yn fwy nag incwm ym mlwyddyn academaidd 2023-24.

Cyhoeddodd Prifysgol Durham eu bod nhw hefyd yn bwriadu torri tua 200 o staff ddydd Mawrth diwethaf (21ain) i leihau costau gan £10 miliwn. Yn ogystal mae’r Prifysgolion Aberystwyth, Glasgow, Aberdeen, a Queen’s Belfast hefyd yn ystyried gwneud toriadau.

Protestiadau a Deisebau

Disgwylir i brotestiadau gan staff a myfyrwyr ddigwydd o fewn yr wythnosau nesaf. Mae myfyrwyr wedi mynd ati i greu deisebau i achub cyrsiau a derbyn degau ar filoedd o lofnodion yn dangos eu cefnogaeth. Mae’r deisebau yma ar y grŵp Facebook Overheard at Cardiff University.