’r diwedd mae’r haul wedi darfod i’r brifddinas, mae dyddiau hir yr haf ar droed. Mae pawb yn cymryd ar y cyfle i fod allan yn yr haul er bod yr asesiadau a’r arholiadau hefyd yn galw am ein hamser. Mae’n hynod o bwysig fod cydbwysedd gwaith a chymdeithasu yn iach ac felly dyma rhai syniadau ar sut i dreulio’ch seibiant o’r gwaith neu bethau i edrych ymlaen at ym Mehefin.

Un o’r pethau gorau am Gaerdydd ydy Parc Biwt, ewch am bicnic, chwarae pêl-droed a bola heulo ar y gwair. Yn ogystal, mae Parc y Rhath â llyn yn y canol ac mae modd llogi cwch padlo ar y dŵr.

Ym mis Gorffennaf mae rhai o artistiaid mwyaf y sin gerddoriaeth Cymraeg i gyd yn dod i Barc Biwt ar y 13-14eg. Rhai o’r bandiau sy’n chwarae ar y brif lwyfan ydy Eden, Fleur de Lys, Gwilym ac Yws Gwynedd.

Mae llawer o gigs cerddoriaeth yn dod i gastell Caerdydd hefyd, bandiau megis Catfish and the Bottlemen ac Idles. Os nad oes modd ichi ddod o hyd i docyn, byddwch yn gallu clywed y bandiau o Barc Biwt neu ar stryd Heol Eglwys Fair! Gallwch hefyd fentro i’r bae a mynd ar gwch cyflym ar hyd y dŵr neu wneud cwrs ar y dŵr sy’n agor ym mis Mehefin, neu gwrs rafftiau.

Beth am feicio draw i Benarth ar hyd morglawdd Bae Caerdydd? Mae modd dal y trên i draethau de Cymru, fel Ynys y Barri, Gŵyr a Rhossili. Cofiwch hefyd fod Bryste ddim yn bell o gwbl!

Rydyn ni hefyd yn lwcus fod llawer o ‘beer gardens’ yn ein pentref myfyrwyr yn Cathays, felly mae modd torri syched, cymdeithasu a dal lliw’r haul. (Tarddiad: WikimediaCommons)

Gobeithio bod y gweithgareddau yma wedi eich ysbrydoli i wneud y mwyaf o’ch amser yng Nghaerdydd a hefyd i fwrw ati gyda’ch gwaith er mwyn gwneud amryw o bethau!