Fel daw Chwefror i ben, mae mis hanes LHDTC+ hefyd. Mae’r mis yn ceisio gwrthdroi effaith deddf roedd yn erbyn addysgu am y gymuned LHDTC+, Fel rhan o’r Ddeddf Llywodraeth Leol, roedd Adran 28 yn lleihau’r gynrychiolaeth o’r grŵp o fewn lleoliadau addysgu, ac yn gwahardd dysgu sydd yn ‘hybu cyfunrywiol yn fwriadol’. 20 mlynedd ar ôl i’r ddeddf gael ei ddiddymu, mae’r mudiad School’s OUT yn ceisio gwrthdroi’r ffordd mae hanes LHDTC+ yn cael ei addysgu, yn uwcholeuo y gwaith sydd yn aml yn cael ei anghofio. Themâu blwyddyn yma yw ‘Tu-ol I’r lens’ ac yn bwriadu dathlu cyfraniad y gymuned LHDTC+ I’r diwydiant ffilm a theledu. Ond, yw agweddau tuag at y gymuned LHDTC+ wedi newid go iawn?
Yn 2022, roedd troseddau casineb yn erbyn pobl trawsryweddol wedi codi o 56% o’r flwyddyn flaenorol, gyda throseddau casineb yn targedu pobl ar sail rhywioldeb yn codi 42%. Ar gychwyn mis yma, llofryddwyd Brianna Ghey, 16 oed mewn ymosodiad sydd wedi ei honni i fod yn un targed. Mae mis yma hefyd yn nodi blwyddyn ers i dri unigolyn gael ei dedfrydu am ladd Dr Gary Jenkins mewn ymosodiad homoffobic ym Mharc Bute, Caerdydd. Gyda thrais yn weithred reolaidd, ni all gwadu fod mesuriadau angen ei gosod i warchod hawliau unigolion LHDTC+.
Ar Chwefror 7fed, lansiodd Llywodraeth Cymru eu cynllun gweithredu LHDTC+ a ddatgelai sur mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflawni cydraddoldeb a chynhwysiad pobl LHDTC+.
Mae Cymru yn rhagweld ei hun fel bod y wlad decaf yn Ewrop I’r gymuned LHDTC+, gyda’r cynllun efo manylion an weithredoedd polisi, o bolisïau tai ac addysg i hybu cydlyniad cymunedol, er mwyn gwella ansawdd bywyd unigolion LHDTC+.
Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad gafodd ei wneud yn y cytundebau cyd-weithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Dywedai arweinydd Plaid Cymru Adam Price: Mae’r cynllun yn uchelgeisiol ond efo gobaith yn ei wraidd. Rydym yn hollol ymroddedig i newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+, yn creu cymdeithas a gwlad ble mae pobl yn teimlo’n ddiogel i fyw a charu’n ddilys, yn agored, ac yn rhydd fel ein hunain’.
Mae mwy o digwyddiadau ac symudiadau LHDTC+ yn cael ei datblygu yng Nghymru. Bydd Caerffili yn cynal ei orymdaith ‘Pride’ gyntaf yn mis Mehefin i nodi mis ‘Pride’. Mae Mas ar y Maes, symudiad iaith-Cymraeg sydd yn partner gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, yn gobeithio datblygu Eisteddfod ar gyfer ymgeiswyr LHDTC+ yn unig. Tra mae rhain yn weithredoedd cadarnhaol ac yn camau I’r cyfieirad cywir, bydd y gymuned LHDTC+ yn gorfod disgwyl hyd yn oed yn hirach I weld y yr agweddau yma ar draws holl elfenau o gymdeithas?

