Ym mis Hydref eleni, daeth Gŵyl Sŵn yn ôl i Gaerdydd i lenwi’r strydoedd â chyffro, bwrlwm, a llawer o sŵn! Gŵyl gerddoriaeth tair noswaith o hyd yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi denu llu o gefnogwyr yn flynyddol ers 2008. Mae’r Ŵyl yn rhoi llwyfan i artistiaid newydd mewn gigiau ar hyd a lled y ddinas – gan gynnwys yng Nghlwb Ifor Bach, Fuel, The New Moon, Tiny Rebel, Jacob’s Basement, The Canopi, Tramshed, Eglwys Sant Ioan, a Porter’s.

Profodd yr Ŵyl lwyddiant ysgubol eto eleni, gyda’r tocynnau ar gyfer y nos Iau, y nos Wener, a’r nos Sadwrn, yn gwerthu allan cyn y digwyddiad. Ac mae’n siŵr byddai pawb a fynychodd Glwb Ifor Bach wedi’r gigiau ar y nos Sadwrn yn cytuno bod yna ddigon o gynnwrf a thwrw yn perthyn i’r lle! Disgrifiodd Efa Jones, myfyriwr yn ei ail flwyddyn, y profiad o fynychu’r Ŵyl fel “profiad cyffrous.” “Ges i’r cyfle i ddarganfod artistiaid newydd mewn lleoliadau bach a chlyd ar draws y ddinas.

Roedd cymysgedd o fandiau Cymraeg ac artistiaid rhyngwladol yn creu awyrgylch agored a chyfoes. Roedd yr ŵyl yn teimlo’n gymunedol ac ysbrydoledig, gan agor drysau i wrando ar gerddoriaeth newydd a gweld y sîn Gymraeg ar ei gorau.” Y Gymraeg yng Ngŵyl Sŵn Mae Gŵyl Sŵn yn unigryw o’i chymharu â Gwyliau cerddoriaeth eraill yng Nghymru am i artistiaid Cymraeg rannu llwyfan ag artistiaid o’r Deyrnas Unedig yn ehangach a thu hwnt. Gwnaeth nifer o artistiaid Cymraeg serennu yn yr Ŵyl eleni, gan gynnwys Georgia Ruth, Buddug, Cyn Cwsg, Ani Glass, Sywel Nyw, Peiriant, a Gruff Rhys.

Mae Efa yn ystyried hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn, sy’n “gwneud i’r Gymraeg deimlo’n naturiol ac amlwg yn y sîn gerddoriaeth.” “Mae’n golygu bod y cynulleidfaoedd sy’n dod i weld artistiaid rhyngwladol neu Seisnig hefyd yn darganfod cerddoriaeth Gymraeg yn naturiol.” “Mae hwn yn effeithiol ac yn bwysig gan ei fod yn normaleiddio’r Gymraeg yn y sîn gerddoriaeth ehangach. Roedd e’n neis i weld bod pobl di-gymraeg yn dod i ddathlu cerddoriaeth ac artistiaid Cymraeg.”