Yn ddiweddar iawn, mae criw bach ohonom sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dychwelyd o’r Wladfa Gymreig, yn yr Ariannin ar ôl treulio 6 wythnos yno. Mae’r Wladfa yn fwy na gwladfa arferol. Mae yna rhyw hud yn perthyn i’r tir, i’r ardal, ac yn fwy nag unrhywbeth, i’r bobl.

Mae’r Wladfa arbennig hon wedi’i lleoli yn ne’r Ariannin, yn nhalaith Chubut sydd tua 2 awr o hediad o Buenos Aires. Er mai ym 1965 aeth y Mimosa, y llong gyntaf o Gymru i’r Ariannin, mae’r cysylltiadau Cymraeg a Chymreig yno, hyd heddiw, cyn gryfed ag erioed. Penderfynodd y dair ohonom ymgeisio ar gyfer y cyfle arbennig hwn dan adain Global Opportunities y brifysgol, yn y gobaith o fod yn llwyddiannus a chael profiad unwaith-mewn-oes lle mae’r bobl mwyaf arbennig yn byw ac yn dal i barchu’r traddodiad Cymreig, a gwneud hynny gyda brwdfrydedd a bywiogrwydd.

Roeddwn i’n ymwybodol iawn o’r hanes cyfoethog sy’n perthyn i’r Wladfa; wrth gwrs, wedi dysgu am hanes y Mimosa yn yr ysgol, yn ogystal ag oddi wrth ffrindiau sydd wedi bod yno nifer o weithiau a chysylltiadau yn dal i fod yno hyd heddiw. Ond gwnaeth un stori aros gyda mi ers i mi ei chlywed pan oeddwn yn ferch ifanc. Hanesyn am geffyl hynod o’r enw Malacara a achubodd John Daniel Evans, un o gonglfeini’r Wladfa, a bu i Malacara fod y Mab Darogan i John Daniel Evans, ac mae bedd Malacara i’w weld yn Nhrevelin yn yr Andes.

Ers i mi glywed y stori hon gan ffrind flynyddoedd yn ôl, ces fy nghyfareddu a’m hudo yn llwyr gan y Wladfa, ac fe wnaeth hynny i mi fod eisiau mynd yno a blasu’r chwedloniaeth drwy fy mhrofiad fy hun. Ac mae’n deg dweud mai hudol fyddai’r gair gorau i ddisgrifio ein profiad ni yno. Felly roedd mynd ar bererindod i Batagonia ar fy rhestr er i mi fod yn fach, ac felly pan ddaeth y cyfle euraid hwn gan y Brifysgol i fynd yno i wirfoddoli a theithio, wel doedd dim dwywaith amdani!

Roeddwn ni yn yr Ariannin am dua 6 wythnos i gyd, ond 4 wythnos oedd y gwirfoddoli, felly roedd hyn wedi rhoi digon o amser i ni i gael gweld talaith Chubut a thu hwnt a chael blas go iawn ar beth oedd hi i fyw yno. Yno, roeddem ni’n gwirfoddoli ac yn helpu’r gweithgarwch o ddysgu Cymraeg yno wrth fod yn yr ysgolion cynradd, uwchradd, dosbarthiadau nos, digwyddiadau i ddathlu Gŵyl y Glaniad a chymaint mwy. Buon ni mewn dwy ardal lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad sef yn yr Andes—yn Nhrevelin ac Esquel, ac yn Nyffryn Camwy—y Gaiman, Trelew, Dolavon, Rawson a chymaint mwy.

Roedd ystod yr oedrannau yr oeddem yn ymwneud â nhw yn drawiadol o blant 2 mlwydd oed yn Ysgol Gymraeg y Gaiman i’r to hŷn oedd wedi cael eu magu ar aelwyd Gymraeg ac am weld yr ethos Gymraeg gref sydd yno yn parhau. Roedd eu balchder nhw dros eu hanes a’u diwylliant yn gwbl neilltuol—rhywbeth rydym ni yn bendant wedi dod nôl ag ef i Gymru. Cafon ni amser gwbl wefreiddiol ymhlith holl bobl Patagonia- o’r Andes i’r Dyffryn—y croeso mor gynnes, a’r bwrlwm o ddysgu Cymraeg yn iasol.

Dydw i ddim yn meddwl i mi erioed brofi y fath groeso a’r cariad at gymydog fel y gwelais ym Mhatagoniaroedd eu haelioni yn gwbl neilltuol. Tra i ni fod yno, fe wnaethom ni drio llawer o fwydydd nodedig Patagonia fel teisen ddu, jam llaeth, jam citron, alfajores a chymaint mwy o fwydydd Archentaidd a Chymreig. Roedd y croeso gafon ni yn Ysgol Gymraeg y Gaiman, Ysgol y Cwm yn Nhrevelin a Choleg Camwy, a’r holl ysgolion y buon ni iddyn nhw, megis Ysgol Aliwen, Ysgol Bryn Gwyn ac ati, mor mor gynnes, ac roedd eu parodrwydd i’n gwahodd ni yno yn hynod, bob tro.

Heb os, uchafbwynt y daith, oedd y bobl. Y bobl hyfrytaf i mi gwrdd â nhw erioed. Gyda’m llaw ar fy nghalon, ni fyddaf i fyth yn gallu dygymod â’u caredigrwydd nhw, a’u haelioni—a byddaf i’n trysori hwnnw am byth!

Iddyn nhw felly mae’r diolch am wneud y profiad—buasai’r profiad wedi bod llawer tlotach hebddyn nhw. A phan fyddaf yn meddwl am Batagonia, y cymeriadau sydd yn dod i’r meddwl yn syth, ymhell cyn y lleoliad fel petai. Petawn i’n gallu, byswn i’n dychwelyd yfory.

Mae’r hiraeth sydd gennyf i am y bobl yno, yn anferth. Mae’n deg dweud ein bod ni wedi sefydlu cyfeillgarwch hynod. Felly da chi, peidiwch ag oedi ymgeisio, pan ddaw’r amser, ar gyfer y cyfle gwefreiddiol hwn.

Roedd y profiad ym Mhatagonia yn brofiad y bydd gyda fi am weddill fy oes. Roedd y bobl, y tirlun a’r croeso yn gwbl gwbl anghredadwy, a dylai pob Cymraes neu Gymro fynd yno, ar bererindod, a mabwysiadu eu brwdfrydedd a’u balchder nhw dros eu Cymreictod. Byddaf i o hyd yn meddwl am ein hamser ni yno dan wenu, wrth gofio am yr holl atgofion melys y crëwyd yno, y cyfeillgarwch a sefydlwyd a’r bobl hyfryd y gwnaeth ein croesawu ni mor gynnes.

O, am gael bod nôl ym Mhatagonia!