Croeso i Rifyn 1207 o Gair Rhydd.

Mae ychydig o amser wedi bod ers i mi ysgrifennu nodyn y golygydd, felly mae llawer o bethau wedi digwydd.

I ddechrau, rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tri o wobrau’r Gymdeithas Cyhoeddiad Myfyrwyr Cenedlaethol! Mae hwn yn gyflawniad anhygoel gan nad ydym wedi cyrraedd y rhestr fer am gymaint â hyn o wobrau ers 2019. Rydym ar y rhestr fer ar gyfer dyluniad papur newydd gorau, adran chwaraeon orau, ac mae pennaeth ein hadran chwaraeon, Aimee Szulczewski, ar restr fer y gohebydd chwaraeon gorau. Mae tîm Gair Rhydd yn gyffrous i deithio lawr i Gaerwysg ar gyfer y gynhadledd a’r seremoni wobrwyo felly gobeithio y gallwn ni ddychwelyd yn enillwyr, neu oleiaf wedi ein cymeradwyo! Llongyfarchiadau mawr i’n tîm golygyddol chwaraeon am y cyflawniad hwn.

A group seated around a table with drinks.

Efallai nad yw’n ffasiynol i’w gyfaddef, ond rwy’n falch o fy hun. Pan ddechreuais i yn Gair Rhydd, prin oedd y ffocws ar elfennau gweledol y papur newydd. Oherwydd terfynau amser tynn, doedd Gair Rhydd yn syml ddim yn cyrraedd ei botensial. Nid oes gen i dîm dylunio. Mae’r mwyafrif o elfennau dylunio’r papur newydd yn cael eu gwneud yn llwyr gen i ac mae cael cydnabyddiaeth am hynny ar lefel cenedlaethol yn gyflawniad ynddo’i hun. Hyd yn oed os nad ydym ni’n ennill, mae cael ein cydnabod fel un o’r papurau newydd myfyrwyr â’r dyluniad gorau yn y DU yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono.

A selection of printed Gair Rhydd pages.

Mewn newyddion arall, mae ein tîm wedi tyfu’n sylweddol. Bellach, mae gan ein tîm Taf-Od naw golygydd iaith Gymraeg anhygoel, i gyd yn ymrwymedig i erthyglau Cymraeg o safon uchel. Mae gan ein tîm Gwyddoniaeth dri golygydd, ac mae ein hadran Spotlight yn fwy nag iddi fod erioed o’r blaen!

A person behind a Gair Rhydd display table with newspapers and promotional material.

Rwy’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r rhifyn digidol olaf ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae gennym ni ddarnau diddorol ac addysgiadol i chi. Darllen hapus!