Mae’r Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’i chynllun i gyflwyno ID’s digidol gorfodol er gwaethaf i bron i 3 miliwn o bobl lofnodi deiseb yn ei erbyn.

Mewn ymateb i’r ddeiseb dywedodd y Llywodraeth: “Byddwn yn cyflwyno ID digidol o fewn y Senedd hon i helpu mynd i’r afael â mudo anghyfreithlon, gwneud mynediad at wasanaethau’r llywodraeth yn haws, a galluogi effeithlonrwydd ehangach.

Ers i’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer gyhoeddi’r cynllun o gyflwyno ID’s digidol gorfodol, mae’r cynllun wedi troi’n fater llosg, gan godi pryderon difrifol ynghylch preifatrwydd, cydraddoldeb a rhyddid sifil

Yn ôl Owain James, 20, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd; “Nid yw’n llenwi fy hyder bod ein Llywodraeth yn gallu parhau gyda’i chynlluniau heb unrhyw ddylanwad o un o’r deisebau mwyaf poblogaidd yn hanes y DU. Mae’n gwneud i mi deimlo fel nad yw’r person cyffredin yn gallu cael llawer o effaith ar y pethau sy’n effeithio ein bywydau ni.” “Mae’r cynllun ID digidol newydd yn teimlo fel cam gwael i ffwrdd o breifatrwydd, mewn gwlad lle mae pobl yn cael eu harestio am brotestio’n heddychlon yn barod.”

Cam gwael i ffwrdd o breifatrwydd

Beth yw ID Digidol?

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cynllun ID digidol gorfodol am ddim i bob dinesydd a phreswylydd cyfreithiol yn y DU, wedi’i storio ar eu ffôn gan ei gwneud hi’n haws profi pwy ydynt a chael mynediad at wasanaethau. Ei nod yw gwneud bywyd yn haws, cynyddu diogelwch, lleihau twyll, a sicrhau mai dim ond y rhai sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU all wneud hynny.

NO2DIGITALID

Rhybuddia Big Brother Watch sydd wedi sefydlu’r ymgyrch NO2DIGITALID, fydd y cynllun yn creu cymdeithas dan oruchwyliaeth, lle mae mynediad at wasanaethau yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Llywodraeth, sy’n bygwth rhyddid sifil a phreifatrwydd. Mae pryder fydd hyn yn galluogi gwyliadwriaeth dorfol, casglu data, ac olrhain grwpiau sydd wedi’u hymylu, gan gynyddu’r risg o gamdriniaeth a chamddefnydd. Atgyfnerthwyd y risgiau diogelwch o gronfeydd data’r ID digidol, a allai gael ei dargedu gan seibr ymosodiadau.

Honnwyd bod yna ffyrdd mwy diogel a llai ymwthiol o ddiogelu hunaniaeth ac ymladd twyll heb risgiau newydd a mathau newydd o reolaeth gan y Llywodraeth. O ganlyniad i’r niferoedd uchel yn arwyddo’r ddeiseb, mi fydd San Steffan yn ystyried ei thrafod. Nid oes dyddiad i gadarnhau pryd hyd yma.