Yn ystod ras arweinyddiaeth y blaid Lafur derbyniodd Vaughan Gething £200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog am droseddau amgylcheddol. Yn ôl adroddiadau mae penderfyniad Vaughan Gething i dderbyn y rhoddion wedi achosi gwrthdaro yn y Senedd.
Dywedodd Beth Winter AS Llafur mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C y dyle Gething ‘wedi rhoi’r arian syth yn ôl’. Ychwanegodd ei bod ddim yn bwriadu amddiffyn Vaughan Gething ac yn galw am ymchwiliad annibynnol i fewn ir mater;
‘Fe dderbyniwyd yr arian gan rywun sydd n euog o droseddau amgylcheddol, ac mae pob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb. Ni angen ymchwiliad annibynnol.’ meddai
Yn ogystal, mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am adolygiadau annibynnol. Dywedodd y Ceidwadywr ei bod hi’n debygol bod Vaughan Gething wedi torri cod y gweinidogion.
Gofynnodd Rhun ap Iorwerth i Mr Gething yn ystod Cwestiynau i’r prif weinidog, a oedd wedi cwestiynu o ble y daeth yr arian;
‘A ofynnodd y prif weindiog o bwy yr oedd, a gafodd wybod am orffennol troseddol y rhoddwr a dweud nad oes ots – fe gymeraf yr arian beth bynnag’
Er y gwrthdaro amlwg ac nifer yn galw am ymchwiliad mae’r Prif Weinidog yn amddiffyn ei benderfyniad ac wedi gwrthod ymchwiliad annibynnol i’w benerfyniad i dderbyn £200,000.
Nododd y Prif Weinidog mewn llythyr at Andrew RT Davies ‘Ni fyddaf yn comisiynu unrhyw gyngor pellach nac ymchwiliad annibynnol’.

