Mae myfyrwyr yng Nghaerdydd yn teimlo pwysau cynyddol i sicrhau llety ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Er bod y broses chwilio am dai fel arfer yn dechrau tua mis Tachwedd, eleni mae llawer wedi dechrau ymweld â thai ac arwyddo cytundebau yn barod. Mae nifer o fyfyrwyr wedi mynegi pryder bod y broses o chwilio am dai yn digwydd yn gynt bob blwyddyn, gan roi straen ychwanegol ar fyfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Un o’r rheiny sy’n poeni yw Gwenno Davies, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn. Dywedodd “Blynyddoedd o’r blaen, fi ‘di teimlo pwyse i sorto tai mas yn rili gynnar yn y flwyddyn, tua diwedd Hydref neu dechrau mis Tachwedd. Mae e’n lot i feddwl amdano pan ti’n trio setlo mewn i’r cwrs.
Fi’n teimlo fel ma pobl yn sortio tai yn gynt bob blwyddyn. Ma’ chwaer fi yn ei blwyddyn gyntaf a ma’ hi wedi sortio fe yn barod a dim ond jyst ‘di dechrau yn y brifysgol ‘ma hi.” Mae Gwenno hefyd yn sôn am y pwysau i wneud penderfyniadau cyflym: “Yn y flwyddyn gyntaf, ti’n ganol setlo mewn, ti’n dechre dod i wybod pwy yw dy ffrindie di a’r peth nesaf ti’n gorfod penderfynu pwy ti am fwy ‘da am y flwyddyn nesaf.” Mae’r galw am dai myfyrwyr yng Nghaerdydd felly yn cynyddu’n gyson gydag asiantau rhentu yn marchnata tai yn gynt bob blwyddyn gan gyfrannu at ymdeimlad o frys ymhlith myfyrwyr sy’n ofni cael eu gadael gyda dewisiadau cyfyngedig. Meddai Anest Cunliffe, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn: “Nathon ni arwyddo contract tŷ blwyddyn dau ym mis Tachwedd a tŷ blwyddyn tri tua diwedd mis Hydref achos o’n i’n pryderu byddai’r tai yn mynd yn gyflym.
Ma’ fe’n lot o straen achos ti ddim yn siŵr os wyt ti’n gwneud y penderfyniad iawn a does dim amser ‘da ti i feddwl am y peth. Odd landlord ni ‘di gofyn i ni neud penderfyniad erbyn yr 8fed o Hydref er nad oedden ni wedi byw yn y tŷ am fis eto! Fi’n credu bo’ landlords yn rhyddhau tai yn gynt bob blwyddyn a bydde fe yn well tase hwn yn digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn fel bod gan fyfyrwyr amser i ystyried pwy maen nhw am fyw gyda a ble.” Yn ôl gwefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae’r farchnad rhentu breifat fel arfer yn hysbysebu tai ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o gwmpas diwedd Hydref.
Maent yn rhybuddio y gallai’r opsiynau fod yn fwy cyfyngedig os bydd myfyrwyr yn aros yn rhy hir, ond maent yn awgrymu i gymryd amser i wneud penderfyniadau. Serch hynny, er gwaethaf cyngor yr Undeb i gymryd amser cyn arwyddo, mae’r sefyllfa’n parhau i roi pwysau ar fyfyrwyr, gyda llawer eisoes wedi dechrau chwilio am dai ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r pwysau hwn felly yn codi pryderon am les myfyrwyr, yn enwedig yn ystod cyfnod cynnar yn y flwyddyn academaidd.
Wrth i dai ymddangos ar y farchnad yn gynt ac yn gynt bob blwyddyn, mae’n werth ystyried a yw’r system bresennol wir yn gweithio er budd y myfyrwyr.

