Yn anaml iawn aiff diwrnod heibio ble na fyddwn wedi defnyddio rhyw fath o gyfrwng i dalu am eitemau neu wasanaeth. Ond, y cwestiwn mawr yw, a’i arian parod, cerdyn ffisegol neu gerdyn di-gyswllt y byddwch chi’n ei ddefnyddio? Yn ôl ystadegau yn dilyn astudiaeth yn 2024 gan UK Finance Limited bu i werth 48.8 biliwn o daliadau gael eu gwneud yn y Deyrnas Unedig yn 2024. Cerdyn debit ffisegol oedd y cyfrwng talu fwyaf cyffredin gan gyfateb i werth 26.1 biliwn, bron i hanner y taliadau. Fodd bynnag, yn o agos at hynny oedd y cardiau credyd neu debit di-gyswllt (contactless) wrth iddynt gael eu defnyddio i dalu am werth 18.9 biliwn o daliadau’r flwyddyn.

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg wedi datgan bod eu defnydd o arian parod wedi lleihau’n arw’n ddiweddar.

Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau UK Finance wnaeth gadarnhau mai dim ond gwerth 4.4. biliwn o daliadau oedd wedi’u talu gydag arian parod oedd am y tro cyntaf erioed gyfwerth a llai na 10% o’r holl daliadau.

Un myfyriwr sydd wedi mynegi’r lleihad yn ei ddefnydd o arian parod yw Osian French o Brifysgol Met Caerdydd. Yn siarad gyda Taf-Od ynglŷn â hyn dywedodd: “Fel myfyriwr, prin iawn dwi’n defnyddio arian parod erbyn hyn ac rwy’n talu gyda cerdyn bron pob tro. Yr unig dro dwi’n defnyddio arian parod ydi os byddaf yn ei dderbyn fel anrheg gan aelod o’r teulu.”

Bu i BBC News gynnal astudiaeth achos yn 2024 hefyd a chanfod bod 78% o oedolion rhwng 16-24 mlwydd oed wedi talu drwy gyfrwng di-gyswllt yn 2024. Mae cynnydd hefyd yn y grwpiau oedran hŷn sy’n troi at y cyfrwng hwn. Hynny ydi, 59% o oedolion rhwng 35 a 44 mlwydd oed ac 19% o’r sawl sy’n 65 mlwydd oed a throsodd.

Adlewyrchodd Osian hyn hefyd wrth fynegi; “Mae talu gyda cerdyn yn llawer haws ac yn fwy cyfleus ac rwy’n credu y bydd y dyfodol yn gwbl seiliedig ar daliadau cerdyn neu di-gyswllt yn hytrach na gydag arian parod.”

Mae meddwl am dalu gydag arian parod wedi dod yn estron i mi.

Mae Tom Williams yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerwysg a mynegodd nid yn unig bod talu gyda cherdyn neu’n ddigyswllt yn haws ond hefyd bod annogaeth enfawr mewn busnesau yng Nghaerwysg i beidio talu gydag arian parod. Yn siarad gyda Taf-Od, dywedodd: “Mae’r defnydd o arian parod yn fy mywyd wedi lleihau llwyth dros y flwyddyn dwetha, a mae meddwl am dalu gydag arian parod wedi dod yn estron i mi. Does dim un siop na chaffi ar y campws yn derbyn arian parod gyda nifer o siopau hefyd yn awgrymu defnyddio cerdyn yn lle. Mae ApplePay jysd mor hawdd i’w ddefnyddio, tynnu ffôn mas ac wedyn tapio’r peiriant, tydi talu erioed wedi bod mor hawdd.”

A oes dyfodol i arian parod? Yn sicr, mae hi’n llawer haws arbed a chadw golwg ar faint yr ydym yn ei wario gydag arian parod. O bosibl hefyd, mae hi’n syniad cadw peth wrth gefn rhag ofn y bydd argyfwng ar y gorwel a dim modd cael mynediad at gardiau di-gyswllt. Felly, mae hi’n hynod annhebygol y gwnaiff y defnydd o arian parod ddiflannu’n gyfan gwbl. Ond, mae UK Finance eu hunain yn rhagweld erbyn 2034 y bydd 67% o daliadau’r DU yn cael eu talu gyda chardiau banc ac y bydd arian parod fel cyfrwng talu yn parhau i ddisgyn.