Dywed Charlotte Church ei bod hi wedi ei bygwth ers cymryd rhan mewn digwyddiad o blaid Palesteina. Yn ôl y gantores, roedd yn rhaid i’r heddlu gwirio ei bod hi’n ddiogel ar ol iddi fynychu ac arwain côr oedd wedi canu cân ddadleuol.

Canodd y côr y gân ‘From The River to Sea’ a gyfeirio at y diriogaeth rhwng Afon Iorddonen, sy’n ffinio ac Israel.

Cred rhai bod y gân yn galw am ddinistrio gwladwriaeth Israel.

Denodd y digwyddiad ymateb negyddol gan rhai pobl yn y gymuned Iddewig.

O ganlyniad i’r digwyddiad dywed un grŵp, Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth bod Charlotte Church wedi defnyddio ei ‘statws fel seren i ddysgu plant i ganu geiriau eithafol”

Mynychodd Charlotte Church gorymdaith o blaid Palesteina ddydd sadwrn (10fed o Fawrth) yn Llundain.

Yn dilyn y penwythnos dywedodd ei bod hi wedi wynebu ton o ‘drais a chasineb’.

Mewn datganiad ar ei gwefan dywedodd Charlotte Church ‘Mae’r bygythiadau wedi arwain at yr heddlu yn gorfod dod draw i gadw llygad arnom ni. Mae fy niogelwch a diogelwch fy nheulu wedi cael ei fygwth”.

Ychwanegodd drwy ddweud bod ‘rhethreg gwleidyddion” a “sylw anghyfrifol yn y cyfryngau” hefyd wedi ychwanegu at y broblem.

Er iddi dderbyn ymateb chwyrn gan nifer yn ei datganiad fe wnaeth Charlotte Church rhannu ei barn drwy ddweud nad oedd hi’n cefnogi Hamas ac yn condemnio eu hymysodiad ar 7 Hydref.