Ar y 24ain o fis Medi eleni, cyhoeddodd Geiriadur Saesneg Rhydychen eu diweddariad a olygai fod hyd at 600 o eiriau ac ymadroddion newydd wedi eu hychwanegu i’r geiriadur. Ymysg y geiriau hyn mae 10 o eiriau Cymraeg megis: Senedd, cawl, calennig, twp, iechyd da, ych a fi, sglods, mam-gu a thad-cu. Amlyga hyn felly’r dylanwad cynyddol y mae’r Gymraeg yn ei gael ar gymunedau Saesneg eu hiaith.
Mewn datganiad i’r wasg (24/09/25) yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf, mynegodd Geiriadur Rhydychen eu hamcan wrth ychwanegu’r geiriau uchod. Hynny ydi, sicrhau fod yr iaith Saesneg yn parhau i ddatblygu drwy gydnabod cyfraniadau gan dafodieithoedd eraill, yn benodol ieithoedd megis y Gymraeg sydd ag arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol.
Fel Cymry, mae’r berfenw ‘pwdu’ yn gyfarwydd wrth iddo gyfeirio at yr emosiwn all unigolyn deimlo pe baent yn anfodlon.
Fodd bynnag, mewn cyfres deledu BBC ddiweddar, ‘Race Across the World’ bu i’r cwpwl Cymreig Fin Gough a Sioned Cray ddefnyddio’r gair ‘poody’ mewn cyfweliad. Gair ydyw sydd bellach hefyd wedi’i ychwanegu i Eiriadur Saesneg Rhydychen.
Yn ôl Geiriadur Rhydychen mae ‘poody’ yn enghraifft o air ‘boomerang’.
Golyga hynny ei fod wedi’i ei fenthyg o’r Saesneg i’r Gymraeg ac yna yn ôl i’r Saesneg.
Yn dilyn hyn, mae sawl un wedi bod yn pendroni a oes budd yn deillio o ddefnydd geiriau ‘boomerang’ a chynnwys geiriau Cymraeg mewn brawddegau Saesneg. Hynny ydi, a yw’n ffordd o ddatblygu ieithoedd i fod yn amlddiwylliannol neu’n hytrach yn gymhleth ac yn dinistrio ieithoedd rhag cadw eu stamp unigryw eu hunain.
Mewn cyfweliad, mynegodd unigolyn sy’n dymuno aros yn ddi-enw; “Wrth i iaith esblygu mae’n anorfod bod yna eiriau yn cael eu benthyg o ieithoedd eraill – dyna sydd wedi digwydd ers canrifoedd. Pe bai iaith yn aros yn ei hunfan ac yn aros yn statig, mae peryg i’r iaith honno fynd yn amherthnasol i fywydau pob dydd. Da o beth felly yw gweld bathu geiriau newydd i gyfoethogi sgyrsiau a mynegiant pobl.”
Wrth i fwy o eiriau gael eu hychwanegu’r flwyddyn nesaf i Eiriadur Saesneg Rhydychen, cawn weld a fydd rhagor o eiriau Cymraeg yn mynnu eu lle.
